Sefyll etholiad i fod yn gynghorydd lleol

0
180

MAE gan bobl sy’n ystyried sefyll fel ymgeisydd yn yr Etholiadau Lleol tan 4pm ddydd Mawrth 5 Ebrill i gyflwyno eu henwebiadau.

Bydd pobl ar draws Sir Gaerfyrddin yn bwrw eu pleidlais ddydd Iau 5 Mai i ethol pwy y maent am eu dewis i gynrychioli eu cymunedau lleol yn y cynghorau sir a thref a chymuned dros y pum mlynedd nesaf.

Mae sefyll etholiad i fod yn gynghorydd lleol yn gyfle perffaith i bobl sydd am wneud gwahaniaeth i’w hardal leol.

Mae cynghorwyr nid yn unig yn cynrychioli eu cymunedau a’u trigolion, maent hefyd yn helpu i lunio polisïau’r cyngor. Er nad ydynt yn rheoli gwasanaethau’n uniongyrchol, maent yn gwneud y penderfyniadau ar sut beth fydd y gwasanaethau hynny.

Mae cynghorwyr yn unigryw o ran yr ystod o faterion y maent yn ymdrin â hwy a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar unigolion a’r ardal leol.

Mae cynghorau ledled Cymru yn annog mwy o fenywod a phobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried sefyll fel ymgeiswyr yn yr Etholiadau Lleol ar 5 Mai.

Gall pobl sefyll mewn etholiad drwy gynrychioli plaid wleidyddol, neu fel ymgeisydd annibynnol.

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno sefyll lawrlwytho ffurflen enwebu o https://www.electoralcommission.org.uk/cy neu gysylltu â swyddfa etholiadau Cyngor Sir Caerfyrddin – drwy e-bost, GwasanaethauEtholiadol@sirgar.gov.uk; drwy ffonio 01267 228889; neu’n bersonol drwy fynd i Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ.

Rhaid cyflwyno ffurflenni enwebu erbyn 4pm, ddydd Mawrth 5 Ebrill 2022.

Er mwyn sicrhau bod enwebiadau’n cael eu derbyn yn ddiogel, argymhellir bod papurau’n cael eu cyflwyno â llaw i’r Swyddog Canlyniadau yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP, rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fell arall, gellir sganio ac e-bostio’r ffurflenni i GwasanaethauEtholiadol@sirgar.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Etholiadau Lleol ar 5 Mai, sut i sefyll  mewn etholiad, y broses etholiadau, a’r hyn a ddisgwylir gan gynghorwyr ar ôl eu hethol, yn www.sirgar.llyw.cymru/etholiadau


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle