Grantiau i helpu busnesau bach gwledig i ddefnyddio’r Gymraeg 

0
280

MAE busnesau bach yn Sir Gaerfyrddin wledig yn cael cynnig cymorth i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.

Mae menter Iaith Gwaith Cyngor Sir Caerfyrddin, a ariennir gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, yn darparu grantiau i helpu busnesau i godi proffil y Gymraeg yn eu deunyddiau marchnata, brandio ac arwyddion.

Gall busnesau bach a sefydliadau cymunedol sydd wedi’u lleoli mewn rhannau gwledig o’r sir, neu sy’n symud i’r ardaloedd hynny, wneud cais am y grant a fydd yn talu hyd at hanner y costau cymwys hyd at uchafswm o £3,000.

Mae angen cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd mis Mai 2022, ond mae’r cyllid ar gael ar sail y cyntaf i’r felin a chynghorir ceisiadau cynnar.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.sirgar.llyw.cymru/busnes, neu e-bostiwch RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle