Mae antur yn eich disgwyl yng Nghronfa Ddŵr Lliw gyda maes chwarae newydd o bren naturiol 

0
276
Lliw Reservoir Adventure Timber Playground - L-R Rhys Chess, Ella Chess, Poppy Thomas & Harri Chess
Dwr Cymru Welsh Water News

Diolch i grant gan Gronfa’r Pethau Pwysig sy’n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, mae yna faes chwarae naturiol newydd bendigedig i’r plant ei fwynhau yng nghronfeydd dŵr Lliw Isaf ger Abertawe. Pwrpas y Pethau Pwysig yw cyflawni gwelliannau graddfa fach sylfaenol i’r seilwaith twristiaeth ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymweld â Chymru’n cael profiad cadarnhaol a chofiadwy ym mhob agwedd ar eu hymweliad. 

Bug Hotel at Lliw Reservoir Playground

Mae’r ardal chwarae naturiol newydd yn addas ar gyfer plant bach a mawr. Wrth galon y cyfan mae platfform dringo, gyda phont grog sigledig a dwy groesfan rhaffau. Bydd y plant wrth eu boddau ar y rhaffau dringo ymestynnol i ben y banc a phen y llithren donnog hwyliog! Mae trawstiau cydbwyso a cherrig sarn, a rhaffau siglo hefyd.

Lleolir y maes chwarae wrth ymyl Caffi Lliw, felly gall rhieni a gofalwyr fwynhau paned neu damaid wrth eistedd yn yr ardal awyr agored yn goruchwylio’r plant yn chwarae.  Helpodd Jayne a David Thomas, sy’n rhedeg y caffi, i ddylunio’r ardal chwarae. Dywedodd Jayne “Mae hi’n hyfryd gweld y datblygiadau cyffrous yng Nghronfa Lliw sy’n cynnig llu o gyfleoedd i blant ddysgu trwy chwarae.”

Lliw Reservoir Adventure Timber Playground – L-R Rhys Chess

Mae artist lleol o Abertawe, Ami Marsden wedi creu cyfres o orsafoedd gweithgaredd ar gyfer yr ardal chwarae gan gynnwys postyn gwrando; byrddau chwarae gemau; a gwesty trychfilod mawr yn y maes chwarae lle gall plant helpu i greu cartrefi diogel ar gyfer amrywiaeth o fwystfilod bach a phryfed. Mae’r strwythurau cynaliadwy yma’n annog plant i ddysgu am bwysigrwydd cynefinoedd a gaeafgysgu. 

Artist Ami Marsden Activity Station at Lliw Reservoir

Mae’r maes chwarae naturiol yn cydategu’r llwybr bywyd gwyllt newydd yng nghronfa Lliw Isaf, sy’n cynnwys wyth cerflun prydferth o bren derw Cymreig.  Dilynwch y llwybr i weld cerfluniau sy’n cynnwys ystlumod lleiaf, cwningen, crëyr glas, eog, draenog, dwrgi, tylluan a barcud coch. Mae taflenni bywyd gwyllt rhad ac am ddim ar gael yn Gymraeg a Saesneg er mwyn helpu’r plant i ddysgu am rai o’r creaduriaid sy’n byw yn Lliw wrth fwynhau gweithgareddau hwyliog fel cymryd rhwbiadau ar hyd y ffordd.

Dywedodd Vicky Martin, Pennaeth Strategaeth Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru Welsh Water “Mae derbyn cyllid y Pethau Pwysig gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu i ni drawsnewid yr ardal chwarae yng Nghronfeydd Lliw yn llwyr.  Mae chwarae naturiol yn cynnig antur a her, cyfleoedd i blant ddysgu sgiliau bywyd, a dysgu am y byd natur sydd o’u cwmpas.”

Lliw Reservoir Adventure Timber Playground – Left Ella Chess and Right Poppy Thomas

Mae Caffi a maes chwarae Lliw ar agor bob dydd rhwng 9am – 4pm tan ddiwedd Hydref, a rhwng 9am – 3pm o Dachwedd i Chwefror. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Caffi Lliw

Mae’r maes parcio yng Nghronfa Lliw Isaf ar agor pob dydd o 8am nes iddi nosi. Bydd yr amserau cau i’w gweld wrth fynedfa’r safle.

Am fanylion ewch i: https://lliwreservoirs.com/Hafan/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle