Y Cyngor yn cynnig Ysgol Haf Rithiol i ddisgyblion Ceredigion

0
301

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion ysgol Blwyddyn 11, 12 a 13 Ceredigion gymryd rhan mewn rhaglen Ysgol Haf rithiol.

Datblygwyd y rhaglen gan Dîm Dysgu a Datblygu y Cyngor ac fe’i cynlluniwyd i roi cipolwg i’r disgyblion ar waith y Cyngor, yr ystod o gyfleoedd gwaith mae’n ei gynnig yn ogystal â chynnig cymorth wrth ysgrifennu ceisiadau swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Dywedodd Debbie Ayriss, Rheolwr Dysgu a Datblygu: “Rydym yn falch iawn o roi’r cyfle hwn i ddisgyblion ysgol Ceredigion. Rydym yn cydnabod pa mor anodd mae’n gallu bod i bobl ifanc fod â rhywbeth i ysgrifennu amdano yn eu ceisiadau swyddi cyntaf a cheisiadau prifysgol. Bydd yr Ysgol Haf yn cynnig gweithgareddau i helpu pobl ifanc gyda’u sgiliau cyfweliad ac ysgrifennu ceisiadau yn ogystal â dangos y swyddi a’r gyrfaoedd sydd ar gael yn y Cyngor.”

Hwylusir y Rhaglen Ysgol Haf dridiau gan y Tîm Dysgu a Datblygu ac fe’i cynhelir ar ddau achlysur gwahanol. Bydd y rhaglen gyntaf yn rhedeg ar 28, 29 a 30 Mehefin a’r ail raglen ar 12,13 a 14 Gorffennaf. Bydd y disgyblion a gaiff le ar y rhaglen hefyd yn cael cynnig pedwerydd diwrnod dewisol lle darperir Sesiwn Blasu Prentisiaethau a Gwaith Galwedigaethol yn Hyfforddiant Ceredigion.

Dywedodd Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Pobl a Sefydliad: “Rydym yn gobeithio y bydd disgyblion yn ymgeisio am le ar ein rhaglen, ei fod yn eu cefnogi i gymryd y camau nesaf i ddod o hyd i’w gyrfa ddewisol ac efallai y bydd gan rai ddiddordeb mewn chwilio am waith o fewn y Cyngor.”

Dylai disgyblion sydd â diddordeb mewn ymgeisio ymweld a gwefan gyrfaoedd cyngor: https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/gyrfaeodd-cynnar/ysgolhaf/ am fwy o wybodaeth ac i gyflwyno cais ar-lein.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle