Y gwasanaeth 111 nawr ar gael ledled Cymru

0
179
Welsh Government News

Mae cyngor meddygol ac iechyd brys nawr ar gael ym mhob cwr o Gymru 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, wedi i’r gwaith o gyflwyno’r llinell gymorth 111 gael ei gwblhau’n llwyddiannus.

Bydd y gwasanaeth, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac sydd ar gael ar-lein yn 111.wales.nhs.uk neu dros y ffôn drwy ffonio 111, yn rhoi’r cyngor a’r arweiniad iechyd diweddaraf i bobl ar ba un o wasanaethau’r GIG sy’n iawn iddynt.

Mae gwefan GIG 111 Cymru yn cynnwys mwy na 65 o wirwyr symptomau a gwybodaeth am wasanaethau lleol, a dylai pawb edrych ar y wefan yn gyntaf cyn cysylltu dros y ffôn.

Ond os oes gennych fater iechyd brys, bydd y rheini sy’n ateb galwadau’r llinell gymorth 111 hefyd yn eich helpu i gael y driniaeth iawn, ar yr amser iawn ac yn y lle iawn.

Mae’r gwasanaeth bellach wedi’i gyflwyno i bob un o’r saith ardal bwrdd iechyd yng Nghymru gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle ddaeth y gwasanaeth yn weithredol fis diwethaf.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:

“Mae cyngor meddygol a gwybodaeth am sut i gael gafael ar y gwasanaeth iawn, ar yr adeg iawn, ar gael yn rhad ac am ddim ym mhob cwr o Gymru.

“Bydd y gwasanaeth gwych hwn, sy’n cael cymorth cyllid o £15m gan Lywodraeth Cymru, yn helpu pobl i gael y gofal mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion a bydd yn helpu hefyd i leihau’r pwysau sydd ar ein gwasanaeth 999 hanfodol.

“Ynghyd â gwefan GIG 111 Cymru, bydd y gwasanaeth ffôn rhad ac am ddim a hawdd i’w gofio hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n gwasanaeth gofal iechyd yng Nghymru.”

Dywedodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr y Rhaglen Genedlaethol 111:

“Yn aml yn y Gwasanaeth Iechyd, mae ceisio cael mynediad at wasanaethau gofal brys yn gallu achosi tipyn o ddryswch.

“Dydych chi ddim yn gwybod pa wasanaethau sydd ar agor pryd, a gan ddibynnu beth yw’ch cyflwr dydych chi ddim yn gwybod pa weithiwr gofal iechyd proffesiynol fyddai’r person gorau i chi.

“Mae gwefan GIG 111 Cymru a’r rhif ffôn 111 rhad ac am ddim yn symleiddio hynny. Felly, o hyn ymlaen dim, dim ond deialu 111 fydd angen ichi ei wneud a byddwch chi’n cael eich cyfeirio at un o amrywiol opsiynau.

“Rydym yn falch iawn fod y gwasanaeth hwn bellach ar gael i bawb yng Nghymru a hoffwn i ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi chwarae rhan. Mae hon yn garreg filltir bwysig i GIG Cymru ac rydym yn bwriadu parhau i wella’r gwasanaeth yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Dr Stephen Bassett, Cynghorydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer 111:

“Hyd yma, mae pobl wedi gorfod defnyddio gwahanol rifau i gysylltu â gwahanol wasanaethau, ond mae 111 yn dod â nhw i gyd at ei gilydd o dan un rhif.

“Bydd pobl sy’n galw 111 yn siarad yn gyntaf ag unigolyn sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig i ateb y galwadau, a fydd yn gofyn cyfres o gwestiynau.

“Bydd hyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol y gwasanaeth – nyrsys ac, yn ystod yr hwyr, ac ar benwythnosau a gwyliau banc, meddygon teulu a fferyllwyr – flaenoriaethu galwadau fel bod y rhai sy’n fwyaf difrifol sâl yn cael eu trin yn gyntaf.

“Gan ddibynnu ar eich cyflwr a faint o frys sydd, bydd rhai pobl yn cael galwad yn ôl gan nyrs, meddyg neu fferyllydd os byddan nhw’n galw y tu allan i oriau.

“Os oes angen iddyn nhw weld meddyg teulu y tu allan i oriau arferol, gall gweithwyr y gwasanaeth 111 drefnu hyn.”

Dywedodd Stephen Clinton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

“Mae llawer o waith gwych wedi’i wneud dros y chwe blynedd diwethaf i ddatblygu gwasanaeth GIG 111 Cymru ac rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi’i gyflawni.

“Mae ein timau ym mhob cwr o Gymru bellach yn helpu bron i filiwn o bobl bob blwyddyn gyda’u hanghenion gofal brys, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle