HWYL I’R TEULU YN YSTOD GWYLIAU’R PASG YN THEATR Y GLOWYR, RHYDAMAN GYDA JACK & THE BEANSTALK

0
422

Mae yna wledd i deuluoedd ym mis Ebrill wrth i gynhyrchiad hudolus Lyngo Theatre o Jack & the Beanstalk gyrraedd Theatr y Glowyr, Rhydaman ddydd Mawrth 19 Ebrill am 11am a 2pm.

Mae’r stori dylwyth teg glasurol wedi cael ei hail-greu gan y Lyngo Theatre Company, felly gallwch ddisgwyl llawer o bethau annisgwyl a delweddau hardd wrth i Patrick Lynch (Cbeebies) adrodd y stori gyffrous am Jack sy’n gwerthu ei fuwch am 5 ffeuen hud ac yn darganfod ei hun yn y tir uwchben y cymylau. Mae’n sioe i blant dros 3 oed (a’u cewri) ac mae’n cynnig rhywbeth i bawb – esgidiau anferth, tai pitw bach, cawodydd o arian ac aur, a ffrwydrad deiliog!

Mae tocynnau ar werth nawr am £5 i oedolion, £4 a £4.50 i gonsesiynau, Tocyn Teulu: £16 (2 oedolyn, 2 blentyn)

Gallwch brynu tocynnau drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510 neu fynd i www.theatrausirgar.co.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle