Prifysgol Abertawe’n anrhydeddu pâr chwaraeon o Gymru

0
349

Mae Prifysgol Abertawe wedi anrhydeddu dau o fawrion y campau, sef George North, y chwaraewr rygbi disglair o Gymru, a’i wraig, Becky James, a enillodd ddwy fedal fel beiciwr yn y Gemau Olympaidd.

Dyfarnwyd graddau er anrhydedd i’r pâr i gydnabod eu cyflawniadau yn eu meysydd unigol yn ogystal ag wrth godi proffil chwaraeon Cymru ledled y byd.

Dim ond 18 mlwydd a 214 diwrnod oed oedd George North pan gynrychiolodd Gymru am y tro cyntaf, yn y gêm yn erbyn De Affrica yn 2010. Sgoriodd ddau gais ac ef oedd y Cymro ifancaf erioed i groesi ar ei fedydd.

Wrth ennill 102 o gapiau i Gymru, cymerodd ef ran ym mhob ymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng 2011 a 2021, yn ogystal â thair cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd, gan sgorio 43 o geisiadau i’w wlad. Aeth ef ar ddwy daith fel aelod o Lewod Prydain ac Iwerddon hefyd yn 2013 a 2017.

Ar hyn o bryd, mae George, sy’n asgellwr, yn chwarae i’r Gweilch ac ef oedd y chwaraewr ifancaf i ennill 100 o gapiau dros Gymru. Mae ef wedi sgorio mwy o geisiadau rhyngwladol nag unrhyw chwaraewr rygbi cyfredol arall.

Mae cyflawniadau ei wraig yr un mor anhygoel ers iddi ddenu sylw Tîm Talent Cymru a dod yn aelod o raglen medalau Olympaidd (Olympic Podium Programme) y corff sy’n llywodraethu beicio ym Mhrydain, sef British Cycling.

Pan oedd hi’n 18 oed yn 2009, hawliodd hi ddwy fedal aur a medal arian ym Mhencampwriaeth Beicio ar y Trac Ewrop a Phencampwriaeth Beicio ar Drac Iau’r Byd, lle gosododd record y byd am y ras 200 metr ar wib.

Wrth gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010, enillodd hi fedal efydd yn y ras 500m yn erbyn y cloc ar y trac a medal arian yn y sbrint ar y trac. Yn 2013, hawliodd Becky ei medal aur gyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd a gynhaliwyd gan UCI ac aeth ymlaen i ennill medalau arian yn rasys y keirin a’r sbrint yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn haf 2016.

Ar ôl i Becky ymddeol yn 2017, priododd y pâr yn 2019 ac erbyn hyn mae ganddynt ddau fab ifanc. Maent bellach yn berchen ar Ground Bakery, sy’n meddu ar siopau coffi ym Mhontcanna a Phenarth.

Dywedodd George, Cymro Cymraeg a fagwyd ar Ynys Môn, a Becky, sy’n hanu o’r Fenni, eu bod hwy’n falch o gael eu hanrhydeddu gyda’i gilydd gan y Brifysgol.

Meddai George: “Mae’n anrhydedd go iawn derbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe, yn enwedig gan ei bod hi’n brifysgol Gymreig â chysylltiadau mor gryf â rygbi, ac â’r Gweilch yn benodol. Rwy’n gobeithio cael y cyfle i weithio gyda’r Brifysgol mewn rhyw ffordd yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.”

Ychwanegodd Becky: “Mae cael fy nghydnabod gan Brifysgol Abertawe yn y ffordd hon yn anrhydedd i fi. Mae derbyn gradd er anrhydedd gan Abertawe o bwys mawr i fi, gan ei bod hi’n brifysgol Gymreig sy’n meddu ar draddodiad chwaraeon cryf. Mae wedi bod yn arbennig iawn rhannu heddiw â fy ngŵr, a hoffai’r ddau ohonon ni ddiolch i’r Brifysgol am y cyfle hwn.”


Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Hoffwn ddiolch i George a Becky am ymuno â theulu Abertawe fel y pâr priod cyntaf rydyn ni wedi eu hanrhydeddu

Mae seremonïau graddio’r Brifysgol – a gynhelir dros bedwar diwrnod yn Arena Abertawe, sy’n lleoliad newydd, am y tro cyntaf – yn dathlu cyflawniadau criw 2020. Bu’n rhaid gohirio seremonïau graddio’r rhain oherwydd Covid-19.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle