Bydd Eliza Carthy, seren sîn gerddoriaeth werin y DU, yn perfformio gyda Saul Rose a David Delarre pan fydd yr Eliza Carthy Trio yn galw yn y Lyric, Caerfyrddin fel rhan o’u taith ‘Conversations we’ve had before’, ddydd Mercher 20 Ebrill 2022 am 7:30pm. Y perfformiad hwn fydd yr unig ddyddiad yng Nghymru ar eu taith o gwmpas y DU.
Mae Eliza Carthy (MBE) wedi adfywio cerddoriaeth werin gyda pherfformiadau deallus a charismatig sy’n croesi ffiniau. Mae wedi’i enwebu ddwywaith ar gyfer Gwobr Mercury ac wedi ennill gwobrau lu yn ystod ei gyrfa 25 mlynedd, mae Eliza wedi perfformio a recordio gydag amrywiaeth eang o artistiaid gan gynnwys Paul Weller, Rufus a Martha Wainwright, Nick Cave, Patrick Wolf a Bob Neuwirth.
‘Conversations we’ve had before’.. yw’r albwm cyntaf y mae Eliza, Saul a David wedi’i recordio fel triawd a chafodd yr albwm ei ryddhau yn y lle cyntaf fel CD argraffiad cyfyngedig yn ystod haf 2020. Mae’n cynnwys detholiad o ganeuon ac alawon traddodiadol y maent i gyd wedi’u perfformio gyda’i gilydd, ond heb eu recordio erioed o’r blaen.
Mae tocynnau bellach ar werth am £14.50 (Pris consesiwn £12.50 ). Archebwch ar-lein ar y wefan yn www.theatrausirgar.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle