Cyffro’r Pasg ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

0
342
: Dewch i weld y Merrymakers yn Meddiannu Castell Caeriw ddydd Sadwrn 16 Ebrill.

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sy’n addas i bob aelod o’r teulu dros wyliau’r Pasg, yn amrywio o helfeydd trysor i’r bobl ifanc i deithiau tywys i gerddwyr brwdfrydig.

Gyda’r Parc Cenedlaethol yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed a phenwythnos y Pasg yn dod ar ddiwedd Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol (2-18 Ebrill), does dim amser gwell i fynd allan i weld beth sydd gan Arfordir Penfro i’w gynnig.

Yn ogystal â gweithgareddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd yn 3 atyniad i ymwelwyr Awdurdod y Parc, mae digon o gyfleoedd i grwydro o gwmpas y Parc Cenedlaethol a dysgu mwy am hanes, diwylliant a bywyd gwyllt yr ardal.

Yng Nghastell Caeriw, gall plant ennill gwobr Pasg blasus drwy ddefnyddio ffôn clyfar i ddod o hyd i’r holl wyau mae’r ddraig wedi’u cuddio o amgylch y safle. Ar gael hyd at 24 Ebrill. £1 i blant.

Bydd y rheini sy’n ymweld â’r safle ddydd Sadwrn 16 Ebrill yn gallu mwynhau digwyddiad y Merrymakers yn Meddiannu Castell Caeriw! Diwrnod llawn hwyl o arfau gwarchae, chwerthin a hyd yn oed draig yng Nghaeriw! 10am-4.30pm. Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad arferol.

Bydd Stori Dylwyth Teg gyda Ffrindiau Tylwyth Teg y Goedwig yn cadw eich plant ifanc egnïol yn brysur ar 19 a 20 Ebrill, gyda sesiynau am 11am, 1.30pm a 3pm. Bydd yr antur ryngweithiol yn cynnwys dawnsio, canu a chomedi. Perfformiad a gweithdy £5 y pen, yn ogystal â’r pris mynediad arferol. 3 oed a hŷn.

Am fanylion llawn, gan gynnwys amseroedd a phrisiau mynediad, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

Ymunwch â’r Llwyth ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ystod gwyliau’r Pasg.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn cynnig cyfle i deithio’n ôl mewn amser ac Ymuno â’r Llwyth ar 12, 14, 19, 21 Ebrill gyda dwy sesiwn bob dydd rhwng 10am a hanner dydd a rhwng 2pm a 3.30pm. Bydd y profiad dysgu cyffrous a hudolus hwn yn rhoi cyfle i blant rhwng 6 ac 11 oed ddysgu am ffordd o fyw yr Oes Haearn drwy sgyrsiau a gweithgareddau ymarferol, fel gwneud bara, hyfforddi rhyfelwyr ac adeiladu. Rhaid i blant gael eu goruchwylio gan oedolyn sy’n talu. £5 yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

I rheini ohonoch sy’n caru eich bwyd mae sesiynau Twrio i’r Teulu yn cael ei gynnal rhwng 10am a 12.30pm ddydd Sadwrn 16 Ebrill. Ymunwch â’r daith fwyd wyllt gyda’r chwilotwr proffesiynol Jade Mellor, lle byddwch yn chwilio am y planhigion tymhorol mwyaf blasus ac yn gwneud potyn bach o fwyd gwyllt i fynd adref gyda chi.

£20 y pen (yn cynnwys mynediad i’r safle).

Rhaid archebu lle ar gyfer mynediad a digwyddiadau. Archebwch ar-lein am ddim a thalu wrth gyrraedd. I gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor a phrisiau, ewch i www.castellhenllys.com.

Helpwch y gwenyn a chael hwyl yn y Gweithdy Plannu Planhigion sy’n Gyfeillgar i Wenyn ar 13 Ebrill.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, mae’r amrywiaeth o arddangosfeydd yn cynnwys Ar Eich Stepen Drws, sy’n cael ei arddangos yn oriel Amgueddfa Cymru. Bwriad Ar Eich Stepen Drws yw ysbrydoli pawb i archwilio’r natur, y ddaeareg a’r archaeoleg sy’n bodoli o’n cwmpas, a mwynhau’r manteision iechyd a lles y gall y rhain eu cynnig. Mae Ar Eich Stepen Drws ar agor rhwng 10am a 4pm bob dydd tan Wanwyn 2023.

Bydd y Llwybr Hwyl y Pasg arbennig yn Oriel y Parc yn herio eich plant i chwilota am y darnau o’r wy cudd, gan greu llun Pasg wrth iddyn nhw fwrw ymlaen a’u tasg er mwyn ceisio ennill gwobr arbennig. £2 i blant. Ar gael hyd at 24 Ebrill.

Cynhelir dau ddigwyddiad arbennig ar gyfer Clwb Dydd Mercher yn ystod gwyliau’r Pasg, gyda gweithdy galw heibio ar gyfer Plannu Planhigion Gwenyn Cyfeillgar rhwng 11am a 3pm ar 13 Ebrill. Helpwch y gwenyn a chael ychydig o hwyl yn yr ardd. £3 i blant.

Ddydd Mercher, 20 Ebrill, bydd Llwybr Natur Sant Non yn cael ei lansio, gyda chyfle i wneud eich plac rhwbio natur eich hun rhwng 11am a 3pm cyn i chi ddilyn y llwybr a darganfod natur a hanes y safle cysegredig hwn.

I gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor a phrisiau, ewch i www.orielyparc.co.uk.

Os ydych chi’n awyddus i archwilio’r Parc Cenedlaethol ar droed gyda thywysydd arbenigol, mae amrywiaeth o deithiau cerdded yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol.

Dewch i ddarganfod trysorau cudd Maes Tanio Castellmartin gyda thaith gerdded dywys diwrnod llawn ar 17 Ebrill.

Bydd Taith Gerdded gyntaf Maes Tanio Castellmartin yn 2022 yn cael ei chynnal ddydd Sul 17 Ebrill rhwng 9.30am a 4pm. Ar y daith gerdded hon cewch gyfle i ymlwybro drwy ardal fewnol y Maes Tanio gan ddarganfod ei fywyd gwyllt, ei ddefnydd presennol ar gyfer gweithgareddau milwrol a’i hanes – prin iawn yw’r cyfle i bobl ymweld â’r safle. Dim ond pobl dros 18 oed. Nifer cyfyngedig o gyfleusterau ar y safle. Sori, dim cŵn. £6 y pen. 

Mae Ystlumod Ysblennydd yn Nhyddewi yn rhoi cyfle i chi ymuno â’n Parcmon lleol ar gyfer taith gerdded sy’n addas i deuluoedd i ddarganfod mwy am y creaduriaid nosol hyn o 7.30pm ar 20 Ebrill.

Rhaid archebu lle ar gyfer pob taith dywys. Ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau/list/ i gadw eich lle.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle