Ffermwyr moch o Gymru yn mwynhau taith astudio addysgiadol ac ysbrydoledig i Ddyfnaint

0
333

Cafodd taith astudio i Ddyfnaint a drefnwyd gan Menter Moch Cymru ei ganmol fel llwyddiant ysgubol gan gynhyrchwyr moch a fynychodd y daith. Disgrifiwyd y daith fel cyfle unigryw i ddysgu gan rai o gynhyrchwyr mwyaf llwyddiannus ac arloesol y DU.

Roedd y daith astudio tri diwrnod i Ddyfnaint (Mawrth 28-30) yn cynnwys ymweliadau â chynhyrchwyr porc, proseswyr, a manwerthwyr sydd wedi datblygu cyfleoedd marchnad arloesol yn ogystal a chael clywed gan lu o siaradwyr gwadd arbenigol.

Dywedodd un o’r cynhyrchwyr oedd ar y daith, David Harries o Ynys Môn bod pob agwedd o’r ymweliad,yn arbennig iawn.

 “Roedd yn dri diwrnod hollol ffantastig, ac roedd yn grêt cyfarfod â phobl unwaith eto. Roedd y daith y wych ac roeddwn i’n teimlo inni gael trosolwg go iawn o’r diwydiant moch yn Nyfnaint. Fel cynhyrchydd ar raddfa fach, roedd yn dda gweld sut yr oedd cwmnïau masnachol mawr yn cynhyrchu moch.”

 “Fe wnes i fwynhau ymweld â’r Meat Box Company yn Elston Farm a chafodd y lladd-dy symudol argraff fawr arnaf. Mae’n rhywbeth y gallem ni wir feddwl amdano yma yng Nghymru gan ein bod yn brwydro gyda diffyg lladd-dai ar hyn o bryd.”

 “I mi ar lefel bersonol fel ecolegydd roedd yn ddiddorol iawn gweld sut mae ffermio adfywiol yn gweithio mewn rhannau eraill o’r wlad. Cefais lawer o syniadau ac awgrymiadau, a chawsom sgyrsiau diddorol gyda’r cynhyrchwyr eraill ar y daith – roedd yn gyfle gwych i daflu syniadau a rhannu gwybodaeth. Roedd popeth am y daith yn wych ac yn ddiddorol iawn.”

“Lleoliadau gwych, siaradwyr gwych, bwyd a diod wych ac yn bwysicaf oll, pobl wych,” ychwanegodd.

 Roedd y cynhyrchwyr ar daith yn ymweld â nifer o fusnesau moch yn Nyfnaint.

 Roedd y daith yn cynnwys ymweliad â River Cottage, y tyddyn organig a sefydlwyd gan y cogydd, y newyddiadurwr a’r ymgyrchydd bwyd Hugh Fearnley-Whittingstall, lle rhoddwyd cwrs ymarferol Charcuterie i’r cynhyrchwyr gan y carcuter crefftus blaenllaw Steve Williams.

 Bu hefyd ymweliad â fferm a chigydd arobryn Pipers Farm, sy’n cyrchu cig gan ffermwyr ar raddfa fach ledled Gorllewin Lloegr. Mae eu busnes wedi profi twf aruthrol ar-lein yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 Ymwelodd y grŵp hefyd â The Meat Box Company yn Elston Farm, a chawsant daith o amgylch lladd-dy symudol cyntaf sydd wedi ei gymeradwyo yn y DU a chlywed am brosiectau cynaliadwyedd ac ymchwil ar y fferm – yn enwedig sivopasture, masnachu carbon a ffermio adfywiol.

 Ymwelodd y daith astudio hefyd â Ben’s Farm Shop, sy’n cynnwys Fferm Riverford, pedair siop fferm a bar tapas. Roedd yn amser ac yn gyfle i flasu porc lleol a chlywed stori Ben’s Farm Shop gan y perchennog Harry Watson. Yn siarad hefyd yn ystod yr ymweliad oedd y ffermwr Simon Price, sydd â mwy na 40 mlynedd o brofiad o gynhyrchu moch maes. Mae Simon yn cyflenwi nifer o allfeydd adnabyddus a mawreddog a rhannodd mewnwelediad i’w ddulliau ffermio, ei ymrwymiad i arferion ffermio cynaliadwy a’r gwersi y mae wedi’u dysgu ar hyd y ffordd.

 Bu ymweliad hefyd â Fferm Kenniford, sy’n adnabyddus am borc lles uwch arobryn, ei siop ar-lein a’i fusnes arlwyo a rhost mochyn llwyddiannus.

 Un o’r uchafbwyntiau yn ystod eu harhosiad yn Nyfnaint oedd cyfarfod â John Sheaves, Prif Weithredwr Taste of the West, y grŵp bwyd rhanbarthol annibynnol mwyaf yn y DU. Mae Taste of the West yn cynnal cynllun gwobrau blynyddol ac yn hyrwyddo cynnyrch lleol.

Roedd Bethan Morgan wedi dychwelyd o’r daith yn llawn ysbrydoliaeth. Teimlai fod wedi cael nifer o syniadau ar gyfer ei busnes, y ffarm, ryseitiau newydd a sut i gydweithio gyda chynhyrchwyr lleol. 

“Roedd y daith astudio yn un addysgiadol dros ben a gwelwyd amrywiaeth mawr o wahanol fusnesau, pob un gyda llwybrau gwahanol i’r farchnad. 

“Roedd gan Fferm Pipers a Simon Price ffocws pendant ar iechyd a gofal anifeiliaid. Roedd hyn wedyn yn cael ei adlewyrchu yn glir yn y marchnata. Roeddwn yn hapus yn enwedig i weld moch yn cael eu magu ar borfa oedd wedi ei orchuddio gan gnydau fel betys siwgr.  Golygai hyn haneru yn eu costau porthiant. Roedd hefyd yn gadarnhaol gweld Fferm Pipers yn dosbarthu eu cynnyrch wedi ei rhewi rhywbeth inni feddwl amdano wrth ddosbarthu ein cynnyrch ei’n hunain.”

 Hon oedd y daith astudio gyntaf i Menter Moch Cymru ei chynnal ers dyfodiad y Covid-19, ac roedd nifer o’r siaradwyr gwadd yn barod i rannu eu profiadau o weithredu mewn pandemig a sut mae bod yn wydn ac ymaddasol wedi eu galluogi i ddod allan ar y brig.

 Dywedodd Elin Haf Jones, Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru: “Roedd yn daith astudio wych unwaith eto gydag amrywiaeth o ymweliadau a oedd yn bodloni diddordeb pawb. Roedd yn wych clywed gan yr holl westeion a siaradwyr ac yn braf gweld y cynhyrchwyr yn rhannu syniadau. Roedd yn gyfle i weld arfer gorau ar waith ac yn sicr fe ysbrydolodd y cynhyrchwyr i ddod â syniadau newydd yn ôl i arloesi eu mentrau.”

 Cafodd y daith astudio o dri diwrnod gymorth sylweddol gan brosiect Menter Moch Cymru.

 Ewch i www.mentermochcymru.co.uk am fwy o wybodaeth.

 Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle