Siop sionc 100% Sir Gâr yn ôl yn Rhodfa’r Santes Catrin ar gyfer y Pasg

0
402

MAE siop sionc 100% Sir Gâr yn dychwelyd i Gaerfyrddin dros wyliau’r Pasg.

Mae amrywiaeth o fusnesau annibynnol lleol yn manteisio ar ofod manwerthu am ddim yn Hwb gwasanaethau cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin, sef hen siop Debenhams, i werthu eu cynnyrch o ddydd Mawrth, 12 Ebrill i ddydd Iau, 14 Ebrill (10am tan 2pm).

Daw hyn yn dilyn llwyddiant ysgubol siopau sionc 100% Sir Gâr a gynhaliwyd yn ystod y misoedd diwethaf a olygodd bod miloedd o bobl yn siopa’n lleol.

Ymhlith y masnachwyr newydd sy’n defnyddio’r siop sionc am y tro cyntaf y mae Welsh Soul, Llawn Cariad, Doris & Daughters, Annwyl, a’r Truly Madly Deeply. Bydd Cotton Box, Caru Candles, Bodlon, Efail, Louise Arts, Sians Emporium a Melys Neis yn dychwelyd eto.

Mae manylion am y masnachwyr a’r hyn y maent yn ei werthu i’w gweld ar www.darganfodsirgar.com/siopa/

Mae’r dudalen bellach yn hyrwyddo dros 300 o fusnesau annibynnol o Sir Gaerfyrddin, yn amrywio o artistiaid i gigyddion, dillad i anrhegion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle