Mae Hennighan’s yn lansio digwyddiad codi arian pen-blwydd rhuddem ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
231
ve: Yn y llun yn y siop sglodion mae Dai ac Eleanor Hennighan, gyda dwy o'u tair merch, Anna a Jemma

Mae perchnogion siop sglodion yng nghanolbarth Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed drwy godi arian at Apêl Cemo Bronglais.

Nôl ym mis Mehefin 1982, agorodd Mr Hennighan hŷn Hennighan’s Top Shop ym Machynlleth a 40 mlynedd yn ddiweddarach mae teulu Hennighan yn paratoi i ddathlu pen-blwydd rhuddem y siop sglodion arobryn.

Yn agos at galonnau’r Hennighans mae’r uned ddydd cemotherapi newydd sy’n cael ei chynllunio ar gyfer Ysbyty Bronglais. Mae’r teulu’n gobeithio codi swm sylweddol tuag at yr Apêl sy’n ceisio codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen er mwyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

Dywedodd Jemma Hennighan: “Pan wnaethon ni ymdrech codi arian dros y Nadolig, fe wnaethon ni ddarganfod bod llawer o drigolion y dref yn cefnogi adeiladu uned cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais.

“I ddathlu, mae Hennighan’s yn cynllunio sawl digwyddiad yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd, gan ddechrau gyda ffefryn pawb – cynllun cerdyn crafu.

“Y cynllun yw cael 5,000 o gardiau i’w gwerthu am £2 yr un. Ar ôl costau amcangyfrifir y bydd y cynllun hwn yn codi tua £8,750 tuag at yr uned cemotherapi newydd.

“Rydym yn mynd at yr holl gyflenwyr, siopau lleol, ac atyniadau lleol i ofyn a fyddent yn gallu cyfrannu gwobr ar gyfer y digwyddiad codi arian bach hwn. Gallai fod yn wobr sy’n gysylltiedig â’u busnes neu rodd o gynnyrch, taleb, ac ati.

“Bydd gwobrau bach yn cynnwys eitemau amrywiol oddi ar fwydlen Hennighan’s, ac un brif wobr o bysgod a sglodion unwaith yr wythnos am flwyddyn gyfan.

“Byddai unrhyw roddion o wobrau yn cael eu croesawu’n fawr, a byddai nawdd busnesau i’r fenter hon yn cael ei wneud yn glir ac yn gyhoeddus iawn.

“Rydyn ni’n gobeithio lansio’r digwyddiad codi arian ar ddechrau mis Mehefin sy’n digwydd bod yn benwythnos y Jiwbilî ac felly’n ergyd dwbl yno – ac ar 25 Mehefin, byddwn yn gwerthu pysgod a sglodion am £1 yn unig am y diwrnod!”

Gofynnir i unrhyw fusnesau lleol a all helpu gyda gwobrau neu nawdd i e-bostio hennighanstopshop@gmail.com neu ffonio Jemma ar 07977 271899 erbyn dydd Sul, 10 Ebrill.

Cafodd Apêl Cemo Bronglais ei lansio ddiwedd mis Tachwedd y llynedd ac mae cefnogaeth fawr wedi bod gan gymunedau lleol Ceredigion, Gwynedd a Phowys i’r Apêl.

Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn derbyn triniaeth gwrth-ganser hanfodol yn Ysbyty Bronglais, cyfanswm o tua 300 o bobl y flwyddyn. Bydd uned ddydd cemotherapi newydd yn darparu profiad llawer gwell i gleifion mewn cyfleuster modern, addas ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i deilwra ar gyfer cleifion ar wahanol gamau o’u salwch.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle