Cadwch Yn Ddiogel ar ein Ffyrdd y Gwanwyn hwn- Wythnos Diogelwch Beiciau Modur 11-17 Ebrill

0
196

Mae’r gwanwyn yn bendant wedi cyrraedd, ond, gyda’r haul yn tywynnu a’r tywydd yn sych, mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yn pryderu’n gynyddol am ddiogelwch y rhai sy’n defnyddio’r ffyrdd, ac yn enwedig beicwyr modur. Mae dros 22% o’r marwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru yn ymwneud â beicwyr modur, ac mae angen i ni leihau’r ffigurau hyn er mwyn atal digwyddiadau marwol ac anafiadau difrifol i feicwyr modur a’u teithwyr.

Dywedodd Jane Honey, y Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

Mae gan Gymru olygfeydd gwych, ffyrdd troellog a nifer o fusnesau sy’n gyfeillgar i feiciau modur. Fodd bynnag, mae yna bryder ynghylch y nifer nad ydynt, yn anffodus, yn cyrraedd adref yn ddiogel yn dilyn diwrnod allan yn reidio ar eu pen eu hunain neu gyda grŵp o ffrindiau.

Mae Ymgyrch Darwin yn fenter gan Wasanaethau Tân ac Achub Cymru sy’n cael ei chynnal mewn lleoliadau a nodwyd yn fannau lle mae beicwyr modur yn ymgasglu ar hyd llwybrau beicio poblogaidd yng Nghymru. Ar y cyd â nifer o bartneriaid, rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu, addysg a thrafodaethau ar agweddau’r beicwyr sydd “mewn perygl”. Nod yr ymgyrch yw chwalu rhwystrau a llywio beicwyr tuag at y rhaglen Beicio Diogel.

Dywedodd Richard Davies, y Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

Mae Ymgyrch Darwin yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â beicwyr modur tra eu bod allan yn reidio. Mae cael ein gweld fel hyn hefyd yn annog pobl i beidio â gyrru’n gyflym, sydd, wrth gwrs, yn gallu arwain at ddamweiniau difrifol ar ein ffyrdd yng Nghymru.

Pan fydd beiciwr yn cael damwain, mae fel arfer yn wir mai beiciwr arall fydd y person cyntaf i gyrraedd lleoliad y ddamwain am fod beicwyr yn tueddu i reidio mewn grwpiau neu barau. Nod y cwrs Biker Down! yw lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffordd. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan Ddiffoddwyr Tân Gweithredol sy’n darparu hyfforddiant a gwybodaeth gwerthfawr o ran sut i reoli lleoliad damwain a rhoi cymorth cyntaf, ac mae’n manylu ar y grefft o gael eich gweld. Mae’r cyrsiau’n RHAD AC AM DDIM. I gael rhagor o wybodaeth am Biker Down, ac i archebu cwrs sy’n lleol i chi, anfonwch neges e-bost i info@bikerdowncymru.org.uk

Dywedodd y Rheolwr Gorsaf, Glenn Lewis, o Adran Diogelwch ar y Ffyrdd ac Addysg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

Mae hefyd yn hollbwysig bod beicwyr yn gwisgo’r cit cywir tra eu bod ar gefn eu beic. Mae dillad diogelwch llawn yn hanfodol, hyd yn oed ar gyfer y teithiau byr hynny, a gofalwch fod pobl yn gallu eich gweld trwy wisgo dillad fflworoleuol. Sicrhewch fod gennych helmed sy’n ffitio’n iawn gan y gallai hyn, yn anochel, achub eich bywyd yn achos damwain.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch beicwyr modur, ynghyd â chyngor ar reidio, ewch i wefan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i weld rhagor o fanylion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle