Dyfarnu cyllid datblygu i’r Amgueddfa ar gyfer prosiect newydd cyffrous

0
224

Mae Amgueddfa Ceredigion yn falch iawn o fod wedi derbyn £115,894 o gyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect canlynol: Perthyn: Archwiliad o sut y gall casgliadau greu cymuned yng Ngheredigion.

Mae Perthyn yn brosiect uchelgeisiol sy’n ceisio sicrhau y gall pob un o drigolion Ceredigion ddod o hyd i rywbeth yng nghasgliad yr amgueddfa sy’n taro tant â’u hymdeimlad o hunaniaeth a’u gwerthoedd, waeth beth fo’u hoedran, eu rhywedd, eu hethnigrwydd, eu credoau, eu rhywioldeb, eu gallu, neu nodweddion eraill y maent yn uniaethu â nhw.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Byddwn yn gweithio gyda’r Common Cause Foundation i archwilio sut y gall gwerthoedd cyffredin adeiladu pontydd rhwng cymunedau amrywiol Ceredigion. Rydyn ni eisiau darganfod beth sy’n bwysig i bobl yng Ngheredigion, pam, a sut y gall casgliadau’r amgueddfa adlewyrchu eu gwerthoedd.”

Bydd y Prosiect hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o roi mynediad i bobl at y casgliad cyfan (dim ond tua 10% sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd) gan gynnwys, fel rhan o’r ail gam, y posibilrwydd o Ganolfan Casgliadau Treftadaeth Ceredigion newydd, lle byddai oedolion a phlant yn gallu cael teithiau y tu ôl i’r llenni a mynychu gweithdai.  

Rhagwelir y bydd yr Amgueddfa yn ystyried creu nifer o swyddi i gefnogi’r prosiect gan gynnwys digideiddio’r casgliadau, ymgysylltu creadigol â’r gymuned, datblygu cynulleidfaoedd, rheoli casgliadau a datblygu sgiliau.

Ychwanegodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion yng Ngheredigion: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gefnogi’r prosiect hwn. Bydd yn adnodd gwych i’n helpu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd yn cefnogi dulliau trawsgwricwlaidd cyffrous ar gyfer dysgu hanes, gwyddoniaeth, celf a phynciau allweddol eraill.”

Bydd y cam datblygu hwn o’r prosiect yn dwyn ynghyd yr holl bobl sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu cais pellach am gyllid ar gyfer ail gam y prosiect.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd at achosion da ledled y DU bob wythnos.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle