Rhaglen estynedig brechu rhag y ffliw yn cael ei hymestyn am flwyddyn arall yng Nghymru

0
237

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan wedi cadarnhau heddiw y bydd y rhaglen brechu rhag y ffliw yng Nghymru yn cael ei hymestyn i gynnwys pobl 50 oed a hŷn a phlant ysgolion uwchradd ym mlynyddoedd 7 i 11 (11-16 oed) unwaith eto.

Dyma’r ail flwyddyn y mae’r rhaglen wedi cael ei hymestyn, sy’n golygu y bydd dros 1.5m o bobl yng Nghymru yn gymwys i gael brechlyn am ddim eto eleni. Mae’r rheini sydd hefyd yn gymwys i gael brechlyn am ddim yn cynnwys menywod beichiog, pobl a chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes a phlant rhwng dwy a 10 oed.

Bydd pecyn ariannu ychwanegol o £7.85m yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd er mwyn cyrraedd y ddwy garfan uchod.

Y llynedd, cafodd mwy o bobl nag erioed o’r blaen frechlyn rhag y ffliw fel rhan o’r rhaglen frechu flynyddol, gyda’r nod o helpu i ddiogelu’r cyhoedd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) pe bai’r ffliw a COVID-19 ar led ar yr un pryd.

Mae sicrhau bod nifer uchel o bobl yn manteisio ar y brechlyn yn hanfodol i leihau morbidrwydd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Bydd hefyd yn lleihau’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ar adeg pan fydd y GIG a gofal cymdeithasol o bosib yn ceisio ymdopi ag achosion y gaeaf o COVID-19.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi awgrymu ei bod yn debygol y ceir rhaglen atgyfnerthu’r hydref ar gyfer brechlynnau COVID-19 ac efallai y bydd cyfle i gynnig y ddau frechlyn ar yr un pryd yn ystod tymor 2022-23. Dylai’r rheini sy’n cynllunio ac yn gweinyddu brechlynnau fanteisio ar y cyfleoedd hyn os yw’n briodol, i helpu i sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael y brechlynnau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Yma yng Nghymru, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i barhau i ddiogelu cymaint o bobl â phosibl rhag y ffliw, ac rwy’n falch o gadarnhau y byddwn unwaith eto yn cynnig rhaglen estynedig ar gyfer brechu rhag y ffliw. Nid yw COVID wedi diflannu ac mae ein GIG yn dal i adfer ar ôl y pandemig. Bydd sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl wedi’u diogelu rhag y ffliw yn helpu unigolion a’u cymunedau, ond bydd hefyd yn diogelu ein GIG. Rwy’n annog.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle