Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros y Pasg 

0
418

Nid oes unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod y Pasg.

Dylai preswylwyr roi eu sbwriel mas ar eu diwrnod casglu arferol gan gynnwys Dydd Gwener y Groglith a Dydd Llun y Pasg.

Rhowch eich biniau mas erbyn 6am ar y diwrnod casglu os gwelwch yn dda, a chofiwch, dim mwy na thri bag du bob pythefnos.

Bydd gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn cael eu casglu yn ôl yr arfer.

Cofiwch ailgylchu unrhyw focsys wyau Pasg a ffoil yn eich bagiau glas a defnyddiwch eich biniau gwyrdd ar gyfer unrhyw wastraff bwyd.

Gellir ailgylchu poteli a jariau gwydr yn eich banc poteli agosaf, ewch i’r tudalennau ailgylchu ar wefan y cyngor am leoliadau. Os yw eich banc poteli agosaf yn llawn, rhowch wybod amdano ac ewch i’ch safle nesaf sydd ar gael neu gallwch alw eto ar ddiwrnod arall. Peidiwch â gadael gwydr nac unrhyw wastraff arall ar y llawr.

Mae’r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar wyliau banc y Pasg. I drefnu apwyntiad ewch i wefan y cyngor.

Mae siop ailddefnyddio Eto yn Llanelli hefyd ar agor rhwng 10am a 4pm ddydd Gwener y Groglith.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ac i gadarnhau pryd mae eich casgliad, ewch i sirgar.llyw.cymru/ailgylchu


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle