Y BRODYR GREGORY YN DATHLU CARREG FILLTIR O RAN PERFFORMIADAU YN Y GLOWYR, RHYDAMAN

0
332
Brodyr Gregory ar y llwyfan - on stage

Y gwanwyn hwn, gall cynulleidfaoedd Sir Gaerfyrddin edrych ymlaen at noson arbennig iawn yn Y Glowyr, ar 5 Mai am 7:30pm, wrth i’r Brodyr Gregory, y deuawd o Rydaman, ddychwelyd i’w tref enedigol.

Bydd Noson Yng Nghwmni’r Brodyr Gregory, a gyflwynir gan yr actorion Phyl Harries ac Ieuan Rhys, yn dathlu gyrfa 50 mlynedd anhygoel y Brodyr Gregory a ddechreuodd mewn clybiau llawn mwg yng ngogledd Lloegr, hyd at berfformiadau yn stiwdios teledu HTV a chyfresi niferus ar gyfer S4C.

Bydd y noson hefyd yn rhoi cyfle i’r brodyr hel atgofion am eu magwraeth yn Rhydaman, gyda digonedd o straeon doniol iawn. Bydd aelodau’r gynulleidfa yn cael cyfle i ofyn eu cwestiynau eu hunain a bydd perfformiad gan y deuawd enwog i ddod â’r dathliad i ben. 

Bydd Noson Yng Nghwmni’r Brodyr Gregory yn achlysur na allwch ei golli a fydd yn rhoi cipolwg ar fywydau a gyrfaoedd deuawd arbennig iawn, yn yr union dref lle dechreuodd eu taith anhygoel.

Pris tocynnau yw £14.00 (consesiynau £12.00) a gellir eu prynu ar-lein drwy fynd i www.theatrausirgar.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510.
Nodyn i’r golygydd: I gael rhagor o wybodaeth neu i weld lluniau, anfonwch e-bost at theatrau@sirgar.gov.uk 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle