Myfyrwyr entrepreneuraidd Abertawe yn hybu eu syniadau busnes drwy The Big Pitch

0
236

Cafodd syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd hwb mawr yng nghystadleuaeth flynyddol The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi’i noddi gan Santander Universities.

Nod The Big Pitch, a gynhaliwyd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers dwy flynedd, yw helpu myfyrwyr i fagu sgiliau gwerthfawr a rhoi eu syniadau ar waith.

Cyflwynodd 19 o fyfyrwyr entrepreneuraidd 14 o syniadau gwahanol i banel o feirniaid uchel eu bri, a ddyfarnodd fwy na £10,500 i bedwar busnes newydd.

Cafodd yr holl fyfyrwyr eu mentora a dyfarnwyd lleoedd i bedwar busnes ar raglenni cyflymu pwrpasol a luniwyd gan y Tîm Mentergarwch mewn cydweithrediad â sefydliadau cenedlaethol.

Rhoddwyd tair munud yr un i’r myfyrwyr er mwyn cyflwyno eu syniadau i’r beirniaid: Ben Reynolds, Sylfaenydd Urban Foundry a’r cwmni cyntaf yng Nghymru i ennill statws B-Corp; Nicholas Davies, Rheolwr Cysylltiadau Santander Universities; Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe; Kelly Jordan, Uwch-swyddog Mentergarwch y Tîm Mentergarwch; a James Hughes, Prif Weithredwr Vedra Partners.

Roedd y busnesau’n amrywio o bowlenni smwddis acai iach, technoleg bobi wedi’i phatentu a dyluniadau pwrpasol gan fyfyrwyr, i siopau planhigion a rhoddion, gwasanaethau ymgynghori myfyrwyr a mwy.

Cyn eu cyflwyniadau, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdai a drefnwyd gan Dîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe, sy’n rhan o’r Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS), a gynigiodd gyngor ar ddatblygu eu syniadau a’u cyflwyno’n effeithiol.

Meddai Dan Eedy, myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Reolaeth a sylfaenydd Kiwi: “Roedd The Big Pitch yn gyfle gwirioneddol wych i hyrwyddo fy musnes newydd i gynulleidfa, rhywbeth nad oeddwn i wedi’i wneud cyn hynny.

“Roedd yn ddiddorol dysgu am amrywiaeth o fusnesau newydd eraill wrth iddynt gyflwyno eu syniadau nhw, ac wrth gael cyfle i rwydweithio yn ystod y digwyddiad.

“Roeddwn i’n ddiolchgar iawn i dderbyn cyllid a bydd hynny o fudd mawr i mi wrth brynu cyfarpar hanfodol a fydd yn galluogi fy musnes i dyfu’n gyflymach na’r disgwyl.

“Rwy’n edrych ymlaen at weini powlenni smwddi blasus ac iach yn Abertawe ac ymhellach i ffwrdd yn ystod y misoedd nesaf.”

Dywedodd Kelly Jordan, yr Uwch-swyddog Mentergarwch, ei bod hi’n falch bod y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth: “Ar ôl dwy flynedd heriol i bob busnes, rydyn ni eto wedi cael ein syfrdanu gan ansawdd a safon y syniadau a’r modelau busnes a gyflwynwyd yn ystod The Big Pitch.

“Mae’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran wedi bod yn destun balchder i Brifysgol Abertawe, gyda cheisiadau o bob un o’r tair cyfadran yn cwmpasu’r holl flynyddoedd astudio.

“Mae ein myfyrwyr yn profi bod Prifysgol Abertawe’n sefydliad gwirioneddol entrepreneuraidd.”

Meddai Dr Ben Reynolds, un o feirniaid The Big Pitch a sylfaenydd Urban Foundry: “Roeddwn i wrth fy modd bod yn feirniad i The Big Pitch eto. Roedd rhai syniadau gwych a llawer o bobl dalentog i’w gweld!”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle