“DY’N NI DDIM MOR WAHANOL I CHI, ‘DAN NI JESD YN GWNEUD TIKTOKS

0
222
Photo by Helena Lopes: @.pexels.com

Arddegwyr yng Nghymru’n ychwanegu eu llais i ymgyrch sy’n herio camdybiaethau am chwarae

Mae Plentyndod Chwareus wedi lansio ymgyrch newydd, ‘Pan o’n i dy oed di’, HEDDIW i herio rhagdybiaethau am ymddygiad gwrthgymdeithasol arddegwyr mewn mannau cyhoeddus.

Mae’r ymgyrch wedi ei dylunio i ysgogi hel atgofion am sut oedd oedolion yn chwarae yn eu harddegau a’u hannog i rannu eu hatgofion o chwarae yn eu harddegau gan ddefnyddio’r hashnod #PanOnIDyOedDi. 

Mae adroddiadau’n dangos bod arddegwyr heddiw’n fwy synhwyrol na chenedlaethau blaenorol, er enghraifft gan fod meddwdod yn yr arddegau wedi haneru yng Nghymru ers 2002 (Sefydliad Iechyd y Byd). Serch hynny, mae 81% o arddegwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n annheg yn y cyfryngau (National Citizen Service).

Gan fod un o bob saith person ifanc 10-19 oed wedi profi anhwylder iechyd meddwl (Sefydliad Iechyd y Byd) – ffigwr sydd wedi gwaethygu dros y pandemig COVID-19 – mae’n bwysicach nag erioed i bobl ifanc allu chwarae a chymdeithasu yn eu cymunedau gyda’u ffrindiau.

Meddai Celyn, 12 oed, “Fydden ni jest yn hoffi i oedolion fod yn iawn gyda’r ffaith ein bod yn y parc pan ydyn ni am fod yno, a gwybod nad ydyn ni’n gwneud dim byd o le. Fel arfer bydd grŵp mawr ohono’ ni yn y diwedd, ac rydyn ni gyd yn hoffi cael hwyl gyda’n gilydd ar ôl ysgol.

“Dwi’n siarad gyda fy rhieni am beth oedden nhw’n ei wneud pan oedden nhw fy oed i, a dydi o ddim mor wahanol â hynny! Dwi’n treulio lot o amser yn y parc gyda fy ffrindiau ac eistedd ar y meinciau fel oedden nhw. Ond mae gyda ni ffonau a phethau heddiw, felly rydyn ni’n creu TikToks a defnyddio SnapChat.”

Dywedodd Cerys, mam Celyn, “Roedd hi’n gaeth i’r tŷ am bron i flwyddyn, ac allan o’r ysgol am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw hefyd, felly ry’n ni hyd yn oed yn fwy ymwybodol o’i anghenion datblygiadol rŵan.

“Er ei bod hi’n gallu bod yn anodd gadael i’n plentyn yn ei harddegau fynd allan a chwarae gyda’i ffrindiau heb i ni fod o gwmpas, mae hyn i gyd yn rhan o dyfu i fyny a gadael iddi ddod i adnabod ei hun.
 

“Fe dreuliais i lawer o fy arddegau’n cymdeithasu mewn parciau ac ar strydoedd fy mhentref, aros allan yn llawer hwyrach nag oeddwn i fod a smalio fy mod wedi anghofio faint o’r gloch oedd hi, felly rŵan dwi’n dysgu fel rhiant sut i dderbyn bod fy merch yn ei harddegau’r un fath!”

Meddai Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Ieuenctid Interim Cymru a chyn-Gomisiynydd Plant Cymru, “Pan fyddwn ni’n siarad am bwysigrwydd chwarae, byddwn yn meddwl yn awtomatig am blant. Ond mae’n bwysig sylweddoli bod chwarae’n rhywbeth y dylem ni gyd ei wneud trwy gydol ei’n hoes.

“Pan welwn ni arddegwyr a phobl ifanc o gwmpas y tu allan yn chwarae a chael hwyl, mae’n arwydd o gymuned iach. Pan oeddwn i’n Gomisiynydd Plant roeddwn yn digalonni pan fyddai pobl ifanc yn dweud nad oedd oedolion, yn aml iawn, am iddynt fod y tu allan. Eu bod yn cael eu cyhuddo o fod yn wrthgymdeithasol pan mai’r cwbl yr oeddent yn ei wneud oedd chwarae neu gwrdd y tu allan yn y parc lleol.

“Mae’n wir, wrth gwrs, pan fydd arddegwyr yn chwarae y gallant fod braidd yn swnllyd, ond mae mor bwysig i gymunedau ledled Cymru ganiatáu i bobl ifanc chwarae yn ein mannau cyhoeddus.”

Er bod chwarae, neu ‘gwrdd â ffrindiau’, yn edrych yn wahanol heddiw, gyda mwy o ddawnsiau TikTok a sglefrfyrddio lawr yn y parc na chwarae Snake ar dy 3310 ac eistedd ar feinciau yn y parc ym mhob tywydd, mae Plentyndod Chwareus yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn ein hannog i gyd i fod yn fwy goddefgar o’n gilydd mewn mannau a rennir.
 

Dywedodd Marianne Mannello, Cyfarwyddwraig Gynorthwyol, Chwarae Cymru, “Mae gan arddegwyr awydd i ryngweithio’n gymdeithasol, i fod gyda’u ffrindiau a bod yn rhan o griw ac mae hyn yn ysgogaeth gref i’w defnydd o fannau fel strydoedd, trefi, pentrefi a chanolfannau siopa. Mae teimlo bod ganddynt gysylltiad a’u bod yn rhan o’r amgylcheddau bob dydd hyn yn cael effaith fawr ar ymdeimlad arddegwyr o berthyn, lefelau hunan-barch a’u lles cymdeithasol ac emosiynol.

“Gall oedolion helpu trwy eiriol dros hawl arddegwyr i chwarae. Mae angen inni atgoffa ein hunain bod arddegwyr yn blant a bod y ffyrdd y byddant yn chwarae’n debyg o gael eu dylanwadu gan newidiadau sylweddol yn eu cyrff a’u hymennydd. Trwy gofio ein harddegau ein hunain, gallwn ddeall yn well a bod yn fwy goddefgar o ymddygiad chwareus arddegwyr.”

Trwy gydol mis Ebrill, bydd Plentyndod Chwareus yn rhannu cyngor ac awgrymiadau defnyddiol i oedolion am chwarae i arddegwyr, yn cynnwys sut i drafod diogelwch wrth chwarae’r tu allan, ymwybyddiaeth ddigidol a sut i gael eich arddegwyr cyndyn i fynd allan i’r awyr iach.

Ymwelwch â playfulchildhoods.wales i ymuno â’r ymgyrch.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle