Amserlen mis Mai yn gweld gwasanaethau trên yn dychwelyd

0
269
Transport For Wales News

Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith gan y bydd cynnydd mewn gwasanaethau trên o fis Mai ymlaen.

O ddydd Sul 15 Mai, bydd amserlen reilffordd newydd yn cael ei chyflwyno ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.  Bydd hyn yn golygu ail-gyflwyno nifer o wasanaethau ar draws Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru a gafodd eu tynnu oddi ar yr amserlen o ganlyniad i bandemig Covid-19.  Bydd hyn yn golygu mwy o gapasiti ar gyfer tymor twristiaeth yr haf.

Er na effeithir dim ar amseroedd llawer o wasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i wirio yn drylwyr eu hamseroedd gadael, cyrraedd ac amseroedd cysylltiadau.

Ymhlith y newidiadau allweddol, bydd naw gwasanaeth ychwanegol bob ffordd y dydd ar hyd Arfordir Gogledd Cymru rhwng Caer a Chyffordd Llandudno.  Bydd hyn yn cynnwys gweld gwasanaethau uniongyrchol rhwng Llandudno a Maes Awyr Manceinion, a chwe gwasanaeth ychwanegol bob ffordd rhwng Abertawe a Gorllewin Cymru yn dychwelyd.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ailgyflwyno dau wasanaeth dwyffordd ychwanegol rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, ac ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog.

Yng Nghaerdydd, mae Trafnidiaeth Cymru yn adfer gwasanaethau uniongyrchol rhwng Coryton a Radur, a bydd y gwasanaeth gwennol rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd hefyd yn dychwelyd, gan ailgyflwyno cysylltiadau allweddol o fewn y ddinas.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “O 15 Mai, byddwn yn cyflwyno mwy o wasanaethau ar draws ein rhwydwaith ac yn gwneud addasiadau mewn mannau eraill.  Mae’n bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio.

“Wrth i ni groesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i’n gwasanaethau, bydd rhai trenau’n brysurach nag y buont ers tro, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur y gwyliau. I’r cwsmeriaid hynny sy’n dymuno teithio ar wasanaethau tawelach, rydym yn argymell eu bod yn defnyddio ein Gwiriwr Capasiti.”

Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC. Gellir gwirio manylion taith a phrynu tocynnau   yma.

Bydd gwaith trawsnewid Metro De Cymru yn parhau i ddigwydd dros yr haf, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau pan fydd y rhwydwaith yn dawelach, felly dylai cwsmeriaid bob amser wirio a effeithir ar eu taith.

Mae disgwyl hefyd i gyfnod amserlen Mai-Rhagfyr gynnwys cyflwyno’r cyntaf o drenau newydd sbon TrC.  Mae’r trenau newydd cyntaf ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau wedi’u cynllunio i ddod i wasanaeth ar lwybrau yng Ngogledd Cymru a’r Gororau yn ystod yr haf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle