Diolch i Glwb Rotary Aberystwyth, mae Apêl Cemo Bronglais wedi cael hwb o £700.

0
217
Above: Bridget Harpwood, Fundraising Officer at Hywel Dda Health Charities accepts the cheque from Clive Parker, President of Aberystwyth Rotary Club

Mae cyfanswm o £3,650 wedi ei godi gan y clwb trwy werthiant eu calendr 2022 a’u casgliadau stryd ac archfarchnad Nadolig 2021, ac roedd yr Apêl yn un wnaeth elwa.

“Mae Ysbyty Bronglais yn ein meddyliau bob amser wrth feddwl am elusennau a phan glywon ni am lansiad Apêl Cemo Bronglais roeddem eisiau helpu,” meddai Martin Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymuned a Galwedigaethol y clwb, sy’n trefnu’r digwyddiadau codi arian.

“Mae canser yn effeithio ar gymaint o bobl ac mae’n hollbwysig fod gennym uned ddydd cemotherapi yn lleol.”

Mae gan y Clwb Rotary dros 30 o aelodau a bydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 y flwyddyn nesaf. Eu nod yw darparu gwasanaeth i’r gymuned leol a helpu gydag apeliadau

rhyngwladol.

Ychwanegodd Martin: “Hoffai’r clwb estyn diolch i’r bobl leol am eu caredigrwydd. Heb eu rhoddion ni fyddai’n bosib gwneud y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud.”

Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi cyfanswm o £500,000 sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd newydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais, i wella profiad y claf.

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, sydd yn rhedeg yr Apêl: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd wrth Glwb Rotary Aberystwyth. Gyda chefnogaeth ein cymunedau lleol, gall ein breuddwyd o gael uned newydd sbon, modern, ar gyfer y dyfodol er mwyn gwella profiad ein cleifion ddod yn realiti.”

Am ragor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle