Dywedodd byrdi bach wrthym fod diwrnod golff elusennol yn cael ei gynnal yn Aberystwyth i godi arian at Apêl Cemo Bronglais!

0
234

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Falcon Useless Golfing Society (FUGS) ddydd Sadwrn, 14 Mai yng Nghlwb Golff Aberystwyth.

Dywedodd trefnydd y diwrnod golff, Barry Phipson, y byddai’n ddiwrnod llawn hwyl i golffwyr o bob gallu, gyda raffl ac arwerthiant a bwyd yn cael ei weini drwy’r dydd, a golffwyr yn cael eu gwahodd i ddod mewn gwisg ffansi os ydyn nhw’n dymuno.

Ychwanegodd Barry: “Roeddem am gefnogi’r Apêl am uned ddydd cemotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais. Mae cael gwasanaethau canser lleol yn bwysig i bob un ohonom.”

Mae ffi mynediad o £40 y tîm o bedwar am Texas Scramble naw twll. I gystadlu, cysylltwch ag Owen yn y clwb golff ar 01970 615104.

Mae’r FUGS wedi codi degau o filoedd o bunnoedd i elusennau dros y 28 mlynedd diwethaf, trwy dwrnamentau golff a chanu carolau o amgylch pentref Llanilar, ger Aberystwyth, lle maen nhw wedi’u lleoli.

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym mor ddiolchgar i FUGS am gefnogi ein Hapêl, a gobeithiwn y cewch ddiwrnod gwych o golff!”

Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle