MAE Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi camu i lawr yn dilyn ei ymddeoliad fel cynghorydd sir lleol.
Roedd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, o Gyngor Sir Ceredigion, wedi gwasanaethu ar y Panel ers iddo gael ei greu yn 2012, fel Is-gadeirydd yn gyntaf ac fel Cadeirydd ers 2017.
Ar ôl cysylltiad hir â phlismona, sy’n dyddio’n ôl i’w gyfnod fel cwnstabl gwirfoddol gyda Heddlu Gogledd Cymru yn y 1970au, defnyddiodd y Cynghorydd Lloyd Jones lawer o’i amser yn arwain Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i hyrwyddo gwell plismona gwledig.
Cyn iddo ymddeol, dywedodd: “Hoffwn ddiolch i bawb rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda nhw yn ystod fy nghyfnod ar y Panel, a dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd iddynt yn y dyfodol.”
Ar ôl yr Etholiadau Lleol ar 5 Mai, ac yn dilyn trafodaethau o fewn y pedwar awdurdod lleol a gynrychiolir, cyhoeddir aelodaeth newydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Penodir Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ym mis Gorffennaf.
Mae’r Panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan Gynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ynghyd â dau aelod annibynnol.
Mae gan y Panel ddyletswyddau statudol allweddol, gan gynnwys dwyn i gyfrif Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, craffu ar ei benderfyniadau a’i weithredoedd, cymeradwyo cyllidebau blynyddol, ac, os oes angen, adolygu’r bwriad i benodi neu ddiswyddo’r Prif Gwnstabl ac uwch benodiadau eraill yr heddlu.
Bydd yr Aelodau yn mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â chymryd rhan yn broses o wneud penderfyniadau, creu adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiynydd.
Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a chysylltiadau gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i’r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.
Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu’n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle