Her Elusennau ar Gestull a Chopa ar gyfer Apel Chemo Bronglais

0
330
Karen-and-Ian

Mae Karen Kemish ac Ian Brandreth yn ymgymryd Ăą her anferthol o gestyll a chopaon ym mis Mai i godi arian at ApĂȘl Cemo Bronglais.

Mewn dau ddiwrnod, mae’r ddau o Aberystwyth yn cynllunio seiclo rhwng cestyll Caernarfon a Chaerdydd, tra’n hefyd dringo tair copa Cymraeg sef yr Wyddfa, Cadair Idris a Pen y Fan.

Dyna gyfanswm o 200 milltir o seiclo a 22,500 troedfedd i ddringo ar y 7fed ac 8fed o Fai!

Byddent wrth eu bodd pe bai pobl yn ymuno Ăą nhw am y cyfan neu ran o’r llwybr – boed yn dringo un o’r copaon neu’n beicio rhan gyda nhw.

Mae Karen ac Ian wedi colli eu mamau i ganser ac roedd y ddau eisiau codi arian i gefnogi cleifion.

Karen-and-Ian

Dywedodd Karen: “Cafodd fy mywyd ei newid yn aruthrol pan fu farw fy mam hyfryd Babs o ganser bedair blynedd yn ĂŽl ac, yn anffodus, cafodd Ian brofiad tebyg pan fu farw ei fam, Bridie, ym mis Mai’r llynedd.

“Cawsom y syniad o wneud her i helpu ApĂȘl Cemo Bronglais a Hospis Katherine House oherwydd bod y ddau achos hyn yn agos iawn at ein calonnau.”

Ychwanegodd Ian, 52: “Rwy’n gweld yr her codi arian hon fel ffordd o ad-dalu a thalu ymlaen. Bydd uned ddydd cemotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy’n agored i niwed yn glinigol. Mae cael uned yn lleol yn lleihau’r straen o deithio’n bell am driniaeth.”

Mae’r ddau yn hyfforddi’n gyson tra’n gweithio’n llawn amser, Karen fel therapydd tylino chwaraeon a brechwr COVID-19, ac Ian fel uwch ymarferydd parafeddygol.

“Rydym yn seiclo cymaint ag y gallwn ac yn gwneud rhedeg mynydd i baratoi at yr her,” meddai Karen.

“Rwy’n gwyro rhwng cyffro ac ofn wrth i mi baratoi,” ychwanegodd Ian. “Rydw i wir yn gorfod codi fy ngĂȘm am hyn.”

Dywedodd y ddeuawd eu bod am ddiolch i’w tĂźm cefnogi o Anita ac Andrew Kinsey, Pat Riley a Beth Riley, a fydd wrth gefn trwy gydol eu hantur epig. Os hoffech gyfrannu, dyma’r ddolen i dudalen Karen http://bitly.ws/phX4 a dyma dudalen Ian http://bitly.ws/phX5

Mae ApĂȘl Cemo Bronglais yn anelu at godi’r ÂŁ500,000 sydd ei hangen i ddechrau ar y gwaith adeiladu ar uned dydd cemotherapi newydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf.

Am ragor o wybodaeth am yr ApĂȘl, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle