PLAID CYMRU YN YMATEB I AMSEROEDD AROS DIWEDDARAF GWASANAETH IECHYD CYMRU

0
219
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Wrth i’r GIG parhau i ddod dros COVID, mae angen dybryd am gynllun adfer gwasanaethau

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad amseroedd aros diweddaraf y GIG yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 21 Ebrill, 2022).

Mae’r blaid wedi galw am arweiniad o’r lefel uchaf er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau ar y GIG, sydd mewn rhai achosion 12 gwaith yn uwch na chyn pandemig Covid-19.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal:

“Mae hwn yn set arall o ffigurau sy’n peri pryder mawr, gyda phwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol. Mae staff rheng flaen yn parhau i weithio mor galed ag y gallant, ond mae angen i arweinyddiaeth ddod o’r lefel uchaf a dyna pam mae angen i ni weld cynllun Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros ym mhob sector gan gynnwys gofal, triniaeth a diagnosteg fel mater o frys.

“Mae unrhyw welliant bach mewn amseroedd aros i’w groesawu, ond roedd bron i 44,000 o gleifion yn dal i aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer diagnosteg, sydd ddeuddeg gwaith yn fwy na chyn y pandemig.

“Mae adfer o Covid a lleihau’r rhestrau aros hyn yn fynydd enfawr i’w ddringo. Rhaid i gynllun adfer ganolbwyntio’n glir ar atal, nid dim ond drwy symud cleifion yn gyflym trwy’r system. Mae cyhoeddi’r cynllun wedi’i wthio’n ôl sawl gwaith, ond ni ellir ei ohirio bellach.

“Mae angen cynllun gweithredu Canser arnom hefyd i ymdrin yn benodol â diagnosis a thriniaeth. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers y Datganiad Ansawdd ond does dim cynllun gweithredu o hyd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle