Mae pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin yn barod i ddefnyddio eu pleidlais 

0
253

MAE mwy o bobl ifanc 16 a 17 oed yn Sir Gaerfyrddin wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol yn ystod yr wythnosau diwethaf nag mewn unrhyw ran arall o Gymru.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru yn dangos bod dros 400 o bobl ifanc 16 a 17 oed wedi cofrestru i bleidleisio yn yr wythnosau cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr, sef 14 Ebrill.

Mae’n golygu y byddant yn gallu pleidleisio dros yr ymgeiswyr yr hoffent iddynt gynrychioli eu hardal leol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chynghorau tref a chymuned yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Dyma’r etholiadau lleol cyntaf y mae pobl ifanc 16 a 17 oed yn gymwys i bleidleisio ynddynt yn dilyn newid mewn deddfwriaeth yng Nghymru.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod yr wythnosau diwethaf i egluro pam mae’n bwysig eu bod yn defnyddio eu hawl i bleidleisio, ac i’w hannog i gofrestru.

Mae sesiynau wedi cael eu cynnal mewn ysgolion uwchradd lleol a oedd yn cynnwys fideo lle roedd myfyrwyr chweched dosbarth yn dweud wrth eu cyfoedion pam mae arfer eu hawliau democrataidd yn bwysig yn eu barn nhw.

Un o’r rhai oedd yn siarad â phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin oedd cyn-ddisgybl Ysgol Bro Myrddin, Cai Phillips, a oedd yn aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru a ffurfiwyd yn 2018, gan gynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

“Os nad yw pobl ifanc yn mynd ati i bleidleisio, ni fydd gwleidyddion yn gweld bod pobl ifanc yn bwysig ac ni fyddan nhw’n llunio polisïau a fydd yn effeithio arnyn nhw,” meddai. “Mae gwleidyddion yn llunio polisïau ar gyfer pleidleiswyr. Os byddwch yn mynd ati i bleidleisio fel person ifanc, byddwch yn gallu dylanwadu ar bolisïau, gan y bydd gwleidyddion am ddylanwadu arnoch chi i bleidleisio drostyn nhw.”

Mae’r rhai sydd wedi cofrestru i bleidleisio bellach yn cael eu hannog i ddefnyddio eu pleidlais ar 5 Mai.

Mae tair ffordd o bleidleisio – yn bersonol yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar y cerdyn pleidleisio rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 5 Mai; drwy’r post os oedd cais wedi cael ei wneud erbyn 19 Ebrill; neu drwy ddirprwy, sef gofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan os na allwch wneud hynny oherwydd eich bod yn sâl neu i ffwrdd ar adeg yr etholiad. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill, ond bydd ceisiadau brys yn cael eu hystyried hyd at 5pm ar 5 Mai.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Etholiadau Lleol, gan gynnwys manylion ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad yn Sir Gaerfyrddin a chyngor ar sut i bleidleisio, ewch i www.sirgar.llyw.cymru/etholiadau


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle