Annog ceidwaid adar i gynnal safonau bioddiogelwch craff wrth i fesurau lletya gael eu codi

0
298
Welsh Government News
  • Bydd mesurau lletya gorfodol yn cael eu codi o 00:01 ddydd Llun 2 Mai 2022 ymlaen
  • Mae safonau bioddiogelwch craff yn parhau i fod yn hanfodol wrth i’r risg ffliw adar barhau.

Heddiw, mae’r Prif Swyddogion Milfeddygol wedi cadarnhau y bydd y mesurau tai gorfodol ar gyfer dofednod ac adar caeth, a gyflwynwyd ledled y Deyrnas Unedig i helpu i atal ffliw adar rhag lledaenu, yn cael eu codi o 00:01 ddydd Llun 2 Mai 2022 ymlaen.

Ni fydd angen cadw dofednod ac adar caeth eraill dan do mwyach, oni bai eu bod mewn Parth Gwarchod, a bydd hawl iddynt gael eu cadw y tu allan. Er bod y risg ffliw adar wedi’i leihau i ‘ganolig’ ar gyfer safleoedd â bioddiogelwch gwael, bydd y gofynion bioddiogelwch estynedig a gyflwynwyd fel rhan o’r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym gan y gallai’r haint barhau i gylchredeg yn yr amgylchedd am sawl wythnos arall. Caiff casgliadau o ddofednod eu gwahardd o hyd.

Caiff y rhai sy’n bwriadu cadw eu hadar y tu allan eu cynghori i ddefnyddio’r diwrnodau sydd i ddod i baratoi eu hardaloedd allanol ar gyfer rhyddhau eu hadar. Bydd hyn yn cynnwys glanhau a diheintio arwynebau caled, ffensio pyllau neu ddŵr sefydlog ac ailgyflwyno dulliau atal adar gwyllt.

Ni fu erioed cymaint o achosion o ffliw adar yn y DU gyda dros 100 o achosion wedi’u cadarnhau ledled y wlad ers diwedd mis Hydref. Bioddiogelwch craff yw’r dull mwyaf effeithiol sydd ar gael o reoli clefydau a dylai pob ceidwad adar ddefnyddio’r mesurau hyn bob amser i atal y risg o achosion yn y dyfodol.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y pedwar Prif Swyddog Milfeddygol:

“Er y bydd codi’r mesurau lletya gorfodol yn newyddion da i geidwaid adar, bioddiogelwch craff yw’r ffordd fwyaf hanfodol o hyd i helpu i gadw’ch adar yn ddiogel.

“Diolch i waith caled yr holl geidwaid adar a milfeddygon, sydd wedi chwarae eu rhan i gadw diadelloedd yn ddiogel y gaeaf hwn, ein bod mewn sefyllfa i gymryd y camau hyn. Fodd bynnag, mae’r achosion diweddar o ffliw adar yn dangos ei bod yn bwysicach nag erioed i geidwaid adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd a chynnal safonau bioddiogelwch llym.”

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym ledled y DU, gyda dim ond yr elfen o ran mesurau lletya yn cael ei chodi o ddydd Llun 2 Mai ymlaen. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob ceidwad adar (p’un a oes ganddynt adar anwes, diadell o faint masnachol neu ddiadell iard gefn) fod yn ddiwyd wrth barhau i gymryd camau bioddiogelwch effeithiol a rhagofalus gan gynnwys glanhau a diheintio offer, dillad a cherbydau, cyfyngu ar fynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol i fod ar eu safleoedd, a gweithwyr yn newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn ac wrth adael mannau caeedig lle cedwir adar.

Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o’r clefyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt, a gofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg os oes ganddynt unrhyw bryderon.
Rhaid i bob ceidwad adar:

  • lanhau a diheintio dillad, esgidiau, offer a cherbydau cyn ac ar ôl dod i gysylltiad â dofednod ac adar caeth – os yw’n ymarferol, defnyddiwch ddillad amddiffynnol tafladwy
  • lleihau symudiadau pobl, cerbydau neu offer i ac o ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth, er mwyn lleihau halogiad o dail, slyri a chynhyrchion eraill, a rheoli fermin yn effeithiol
  • glanhau a diheintio mannau lletya yn drylwyr yn barhaus
  • cadw diheintydd ffres ar y crynodiad cywir ym mhob mynedfa ac allanfa fferm a man lle cedwir dofednod
  • lleihau’r cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng dofednod ac adar caeth ac adar gwyllt, gan gynnwys sicrhau nad yw adar gwyllt yn gallu cyrraedd yr holl fwyd a dŵr

Byddem yn annog pob ceidwad i gofrestru eu diadelloedd gydag APHA. Ar gyfer dofednod, mae hyn yn ofyniad cyfreithiol os oes gennych 50 o adar neu fwy (mae dofednod yn cynnwys ieir, hwyaid, tyrcwn, gwyddau, colomennod (wedi’u bridio ar gyfer cig), petris, soflieir, ieir gini a ffesantod). Mae cofrestru gyda ni yn golygu y byddwn yn gallu cysylltu â chi gyda’r wybodaeth neu’r camau y bydd angen eu cymryd os bydd achos yn dod i’r amlwg yn agos atoch chi.

Peidiwch â chyffwrdd na chodi unrhyw adar marw neu sâl y cewch hyd iddynt. Os dewch o hyd i elyrch, gwyddau neu hwyaid sydd wedi marw neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein cyngor i’r cyhoedd.

Cyngor iechyd y cyhoedd yw bod y risg i iechyd pobl yn isel iawn. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg isel iawn o ran diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU, ac nid yw’n newid eu cyngor presennol ar fwyta cynhyrchion dofednod gan gynnwys wyau.

Dylai ceidwaid adar roi gwybod am amheuaeth o’r clefyd yng Nghymru drwy ffonio 0300 303 8268, ac yn Lloegr i Linell Gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra drwy ffonio 03000 200 301. Yn yr Alban, cysylltwch â’ch Swyddfa Gwasanaethau Maes leol. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â DAERA ar 0300 200 7840 neu eich Swyddfa Ranbarthol DAERA leol. Dylai ceidwaid ymgyfarwyddo â’n cyngor ar ffliw adar.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle