Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2022

0
306
Great_Hall_at_Swansea_University_Bay_Campus

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y categori Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni. 

Mae Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni, sydd yn eu degfed flwyddyn bellach, yn seiliedig ar adolygiadau myfyrwyr go iawn sy’n astudio yn y DU ac maent yn rhoi safbwynt unigryw a diduedd i ddarpar fyfyrwyr sy’n wahanol i systemau traddodiadol o raddio prifysgolion. 

Mae’r ymagwedd hon a arweinir gan fyfyrwyr at gasglu adolygiadau a chyflwyniadau ysgrifenedig, yn golygu bod y prifysgolion sydd ar y rhestr fer wedi’u cydnabod gan fyfyrwyr am ddarparu profiad eithriadol. 

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am ei rhaglen Camu i Fyny i Brifysgol Abertawe a ddarparwyd ar-lein pan oedd pandemig Covid-19 ar ei anterth. 

Mae’r rhaglen ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg blwyddyn 12 yn ne-orllewin Cymru sy’n meddu ar y gallu i lwyddo, ond y mae amgylchiadau personol yn eu rhwystro rhag cyrraedd addysg uwch. 

Mewn ymateb i’r pandemig, rhoddodd Camu i Fyny i Brifysgol Abertawe fwy o ffocws ar les. 

Derbyniodd cyfranogwyr becynnau hunanofal a oedd yn cynnwys siocled poeth, cwcis, hadau blodau haul, pecynnau lliwio i hybu ymwybyddiaeth ofalgar a nodiadau post-it i roi ategiad cadarnhaol. 

Clustnodwyd bydis o blith y myfyrwyr hefyd, rhywbeth a oedd yn cynnwys cysylltiadau wythnosol. 

Meddai’r Athro Martin Stringer, y Dirprwy Is-ganghellor Addysg: “Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2022. 

“Rydyn ni’n falch o gael ein cynnwys mewn categori sy’n cydnabod y mentrau allgymorth ac ehangu cyfranogiad cynhwysfawr a grëwyd ar gyfer darpar fyfyrwyr yn ystod y pandemig. 

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dangos ymroddiad ein staff, sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein myfyrwyr yn parhau i dderbyn y profiad anhygoel y mae Abertawe’n adnabyddus am ei ddarparu, er gwaethaf y cyfnod digynsail hwn.” 

Mae Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni, a gyflwynir gan IDP Connect, yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu gwaith caled darparwyr addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig. 

Meddai Simon Emmett, Prif Weithredwr IDP Connect: “Mae cyrraedd rhestr fer un o gategorïau Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni yn gamp eithriadol. Dylai sefydliadau fod yn falch o gyrraedd y cam hwn yn y broses a dylen nhw ddathlu’r profiad a ddarparwyd ganddyn nhw i’w myfyrwyr dros y 12 mis diwethaf.”

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni nos Fawrth, 24 Mai 2022, mewn cinio gwobrwyo tei du yn East Wintergarden, Llundain, a gyflwynir gan gymeriad adnabyddus o fyd teledu. 

Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar wefan Whatuni hefyd, gyda manylion llawn yr holl gategorïau, gan gynnwys perfformiad gweddill y sector prifysgolion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle