Cyflwyno pedwar peiriant yn rhodd i Wasanaethau Tân Wcráin

0
278

Fel arwydd o gefnogaeth i ddiffoddwyr tân Wcráin, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyflwyno pedwar peiriant yn rhodd i’r gwasanaethau tân yn Wcráin.

Ddydd Mawrth 19 Ebrill 2022, gadawodd peiriant tân ac uned ymateb i ddigwyddiadau Ganolbarth a Gorllewin Cymru i ymuno â chonfoi tân ac achub ledled y DU a fydd yn teithio ar draws Ewrop cyn hir i ddanfon fflyd o beiriannau yng Ngwad Pwyl.

Mae’r confoi ledled y DU yn cael ei gydlynu gan Gyngor y Prif Swyddogion Tân a’r Elusen Fire Aid.

Bydd peiriant tân arall, ynghyd ag uned ymateb i ddigwyddiadau arall, hefyd yn gadael Cymru am Wcráin ar 3 Mai.

Dywedodd y Rheolwr Gwylfa Chris Doyle, a fydd ymhlith y tîm o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a fydd yn gyrru ar draws y cyfandir, “Mae pawb yn ymwybodol o’r digwyddiadau trasig sy’n mynd rhagddynt yn Wcráin ar hyn o bryd, ac mae hon yn ffordd fach i ni allu helpu ein ffrindiau a’n cymheiriaid yn Wcráin. Ein cenhadaeth yw ymuno â chonfoi ehangach sydd wedi cael ei drefnu gan Fire Aid a Chyngor y Prif Swyddogion Tân, cyn dechrau ar y daith ar draws y cyfandir i ddanfon y peiriannau hyn yng Ngwlad Pwyl.”

Dywedodd y Rheolwr Grŵp Ashley Hopkins, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, “Mae’n torri calon i weld a chlywed am ddioddefaint pobl a chymunedau Wcráin. Pan aethom ati i ofyn am geisiadau o ddiddordeb gan wirfoddolwyr o blith ein gweithlu, i ddanfon y peiriannau hyn i Wlad Pwyl, cawsom ein boddi gan geisiadau i wirfoddoli.

Rwy’ gobeithio y bydd danfon y ddau beiriant tân a’r ddwy uned ymateb i ddigwyddiadau hyn yn cynorthwyo gwasanaethau tân Wcráin yn ystod y cyfnod erchyll hwn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle