Gwasanaeth bws gwennol o Lanelli i’r ganolfan frechu yn cael ei ymestyn

0
263

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIHDd) wedi ymestyn y gwasanaeth bws gwennol am ddim rhwng canol tref Llanelli a’r ganolfan frechu torfol yn Nafen i helpu pobl i gael mynediad at eu brechiad COVID-19 mor hawdd â phosibl.

Bydd y bws gwennol, a ddarperir gan Dolen Teifi , yn parhau i redeg rhwng 10.30am a 4.40pm, saith niwrnod yr wythnos. Sylwch na fydd gwasanaeth am 12pm o’r dref nac am 12.15pm o’r ganolfan frechu torfol i ganiatáu egwyl ginio i’r gyrwyr.

Gall pobl fynd ar y bws gwennol ar yr awr ac am hanner awr wedi’r awr yn Stryd yr Eglwys, y tu allan i Lys Ynadon Llanelli SA15 3AW. Bydd y bws gwennol yn gadael y ganolfan frechu torfol chwarter wedi a chwarter i’r awr, gan ddychwelyd i ganol y dref a gollwng teithwyr gyferbyn â llyfrgell Llanelli.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym angen cymaint o bobl â phosibl yn mynychu eu hapwyntiadau brechlyn COVID-19, neu alw heibio os yn gymwys.

“Mae’r gwasanaeth bws gwennol hwn yn un o lawer o adnoddau a gwasanaethau ychwanegol sy’n cael eu rhoi ar waith ar draws rhanbarth Hywel Dda i helpu i gefnogi mwy o bobl i gael eu brechiad COVID-19. Rwy’n falch bod y gwasanaeth bws gwennol wedi’i ymestyn i helpu pobl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at eu brechlyn COVID-19.”

Ar 21 Chwefror 2022, cyhoeddodd y JCVI ddatganiad, yn argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn.

Bydd mesurau diogelwch llym COVID-19 ar waith i sicrhau diogelwch gyrwyr a theithwyr ar y gwasanaeth hwn:

  • Rhaid i bob teithiwr a gyrrwr wisgo gorchudd wyneb, oni bai ei fod wedi’i eithrio’n feddygol
  • Caniateir uchafswm o 14 o deithwyr ar bob taith
  • Bydd sgrin rhwng gyrrwr a theithwyr
  • Dim ond os ydynt yn ffit ac yn iach ar y diwrnod y dylai teithwyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Cyn teithio heb apwyntiad i ganolfan brechu torfol Dafen, rydym yn cynghori edrych ar wefan y bwrdd iechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf megis cymhwysedd brechlyn ac amseroedd agor galw heibio https://hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle