Ysgol Bentref i ddathlu 150 mlwyddiant

0
451

Bydd disgyblion, rhieni a staff yn dod at ei gilydd mewn pabell fawr yn ddiweddarach y mis hwn i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu un o ysgolion cynradd mwyaf adnabyddus Sir Gaerfyrddin.

Bydd Ysgol Bancyfelin – a adeiladwyd yn 1872 ac sydd â chyn-fyfyrwyr sy’n cynnwys chwaraewyr rygbi’r undeb Cymreig presennol Jonathan a James Davies, a chyn chwaraewyr rhyngwladol Mike Phillips a Delme Thomas – yn cynnal cyfres o weithgareddau i nodi’r achlysur. Bydd diwrnod agored yn yr ysgol ar Ddydd Sadwrn Ebrill 30ain, ac yna noson gymdeithasol yn y neuadd lle bydd cyn-staff, disgyblion a ffrindiau’r ysgol yn cael cyfle i ymweld â’u hysgol a dal i fyny gyda hen ffrindiau.

Dywedodd Trefina Jones, Pennaeth Ysgol Bancyfelin, sy’n rhan o ffederasiwn newydd sy’n cynnwys Ysgol Llansteffan ac Ysgol Llangain: “Bydd hwn yn gyfle gwych i ddathlu 150 mlynedd o addysg ym mhentref Bancyfelin, ac ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau bydd yn wych i bobl y gymuned a chyn-ddisgyblion gwrdd â’i gilydd i hel atgofion am eu cyfnod yn Ysgol Bancyfelin.

Bydd arddangosfeydd o hen luniau a dadorchuddio gwaith celf newydd a gynhyrchwyd gan y disgyblion presennol dan arweiniad Louise Jones Art.

Wrth i ni ddathlu penblwydd arbennig Ysgol Bancyfelin, fel pennaeth presennol yr ysgol, edrychaf yn ôl gyda balchder ar gyflawniadau pawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r ysgol, yn staff a disgyblion. Ymfalchiwn yn yr holl lwyddiannau, boed hynny ar y maes chwaraeon rhyngwladol, mewn gyrfaoedd disglair neu i wasanaethu’r gymuned leol, gan feddwl am y rhai sydd wedi aros yn ardal Bancyfelin a’r rhai sydd wedi symud i bentrefi, trefi eraill neu yn wir ar draws y byd.

Edrychwn ymlaen yn obeithiol y bydd yr ysgol yn ffynnu yn y dyfodol ac yn parhau i ddarparu’r addysg orau bosibl i bobl ifanc yr ardal am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Carwen Earles, Cadeirydd Llywodraethwyr Ffederasiwn Ysgolion Bancyfelin, Llangain a Llansteffan: “Mae addysg yn fenter ar y cyd sy’n cynnwys pawb – yn blant, rhieni, athrawon a staff, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Trwy’r partneriaethau hyn mae

Ysgol Gynradd Bancyfelin yn anelu at ddarparu’r profiad gorau posib i’r plant. Mae’r dathliad hwn o 150 mlynedd yn cynnig amser i ni fyfyrio ar gyflawniadau’r gorffennol ac edrych ymlaen at ddyfodol hapus a llwyddiannus.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle