Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i fynd i’r afael â sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd

0
304

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog gyrwyr i gadw eu cydwybod a’n ffyrdd yn glir fel rhan o ymgyrch genedlaethol newydd.

Gyda mwy o gerbydau ar ein ffyrdd nag erioed o’r blaen ac arferion bwyta prydau cyflym yn dod yn fwy poblogaidd, mae sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yn broblem gynyddol yn Ceredigion. Mae’n achosi niwed i’n hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Mae’n difetha’r golygfeydd hardd i bobl leol ac ymwelwyr, ac mae hefyd yn anodd, yn beryglus ac yn ddrud i’w glirio.

Mae ymchwil yn dangos bod 78% o bobl sy’n taflu sbwriel o’u cerbyd yn teimlo’n euog.* Mae ymgyrch newydd Cadwch Gymru’n Daclus yn annog gyrwyr i beidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl ac i fynd â’u sbwriel gartref.

Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd hysbysebion awyr agored yn ymddangos ar draws mannau lle mae sbwriel yn broblem ar hyd yr A44 a’r A487 ar fyrddau arddangos ar ochr y ffordd a hysbysebion mewn gorsafoedd petrol ac ar gefn bysiau. Bydd hyn hefyd yn cynnwys hysbysebion radio a sain digidol i dargedu gyrwyr sy’n gwrando ar eu hoff sianeli.

Bydd nifer yr hysbysebion yn cynyddu ar benwythnosau prysur a gwyliau banc yn ystod yr haf er mwyn targedu cynifer o yrwyr â phosibl.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd wedi datblygu adnoddau i gwmnïau cludo nwyddau a gyrwyr masnachol eraill eu defnyddio.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Does dim esgus dros daflu sbwriel ar hyd ochr y ffordd. Nid yn unig y mae’n difetha ein gwlad brydferth, a’r peth cyntaf mae ymwelwyr yn ei weld weithiau wrth gyrraedd Cymru, ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Rydyn ni’n amcangyfrif bod y gost o gasglu a chael gwared ar sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yng Nghymru yn £3.5 miliwn o leiaf bob blwyddyn.


“Mae ein hymgyrch newydd yn gofyn i chi wneud y peth iawn a rhoi’r brêcs ar daflu sbwriel drwy dynnu sylw at sut mae sbwriel yn gwneud i bobl deimlo. Mae’r mwyafrif helaeth o yrwyr yn gwybod bod taflu sbwriel o’u cerbyd yn annerbyniol, ac rydyn ni am i bawb beidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl.

“Pan fyddwch chi allan yn eich cerbyd, peidiwch â gadael unrhyw beth ar eich ôl. Cadwch eich cydwybod a’n ffyrdd yn glir drwy fynd â’ch sbwriel gartref neu ei roi yn y bin agosaf.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho deunyddiau am ddim i lawr, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/
   

Mae Caru Cymru wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle