ENTER MOCH CYMRU YN RHOI CYFLE I AELODAU CFfI CYMRU I FOD YN GYNHYRCHWYR MOCH YN Y DYFODOL

0
287
Eiry Williams. 2021 MMC & Wales YFC Overall Winner at the RWAS Winter Fair2

Bydd y genhedlaeth nesaf o ffermwyr moch yn cael y cyfle i gael dechrau da gyda lansiad Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru 2022 yr wythnos hon.

Gan adeiladu ar lwyddiant y Gystadleuaeth Pesgi Moch ers ei lansio gyntaf yn 2017, mae Menter Moch Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda CFfI Cymru unwaith eto eleni am y tro olaf a chynnig cyfle unigryw i ffermwyr ifanc Cymru gychwyn eu busnes eu hunain mewn cadw moch.

Betsan Williams, competitor from Hermon in the competition 2019

Mewn ymgais i annog y genhedlaeth nesaf o geidwaid moch ac i gael ffermwyr i feddwl am foch fel opsiwn arallgyfeirio ymarferol bydd chwe aelod llwyddiannus CFfI Cymru yn cael eu gwobrwyo gyda phum porchell yr un.

Dywedodd cyn-gystadleuydd, Ethan Williams: “Roeddwn i’n rhan o gystadleuaeth pesgi moch, Menter Moch Cymru tua 2 flynedd yn ôl a rhoddodd yr holl wybodaeth yr oeddwn ei angen i sefydlu fy menter moch personol fy hun.

“Cawsom arweiniad gan arbenigwyr am faeth, iechyd, marchnata, dangos moch a llawer o agweddau eraill ar gadw a gwerthu moch. Ers y cynllun rwyf wedi gorffen ychydig yn llai na 50 o ddiddyfnwyr, sydd wedi dod ag incwm ychwanegol i’r fferm. Os oes gennych chi’r cyfleusterau, byddwn i wir yn ystyried cystadlu, nid wyf wedi difaru o gwbl,” ychwanegodd.

Bydd y fenter hon hefyd yn sicrhau y bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan hyfforddiant arbenigol a mentora gan Menter Moch Cymru. Byddant yn derbyn cyngor ymarferol ar fagu drwodd, i sgiliau busnes, marchnata a deddfwriaeth.

Chris Ludgate, competitor from Capel Iwan in the competition in 2019

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio eleni ar y 29ain o Ebrill a bydd ar agor am fis gyda’r dyddiad cau ar 27 Mai 2022.

Dywedodd cyn-gystadleuydd arall Rhiannon Davies a fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth yn 2019 ac sydd wedi sefydlu busnes teuluol yn gwerthu bocsys cig porc a chig oen, Cig Banc Siôn Cwilt:

“Roedd yn gyfle gwych a gan ein bod yn cael y moch gan Menter Moch Cymru fel rhan o’r gystadleuaeth roedd yn ffordd wych o roi cynnig ar gynhyrchu moch yma ar ein fferm. Rwy’n meddwl ei fod yn ffordd wych o annog pobl newydd i feddwl am gadw eu moch eu hunain a hefyd i ffermwyr ifanc roi cynnig ar rywbeth newydd, does ganddyn nhw ddim byd i’w golli a chymaint i’w ennill o’r gystadleuaeth hon.

“Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn ychwanegu gwerth a gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i’r cwsmeriaid, ac mae’r gystadleuaeth hon wedi rhoi’r cyfle i mi wneud hyn a gwneud rhywbeth newydd,” ychwanegodd.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dylan Phillips, Competitor from Llangwyryfon in the 2021 Competition

Mae’n bosibl bod gan lawer o ffermydd eisoes adeiladau addas at ddibenion cyffredinol neu dir nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol ar hyn o bryd y gellid ei drosi’n hawdd ar gyfer cadw moch, heb fawr o fuddsoddiad cyfalaf.

“Mae Menter Moch Cymru yn falch iawn o gael gweithio gyda CFfI Cymru eto ar y cyfle cyffrous ac unigryw hwn i’w haelodau,” meddai Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru.

“Mae’r fenter yn gyflwyniad gwych i unrhyw ffermwr ifanc sy’n ystyried ymuno â’r sector moch.

Teleri Evans, 2020MMC & Wales YFC Overall Winner of the RWAS Virtual Winter Fair

Rydym wedi gweld cymaint o fentrau fferm newydd yn cychwyn ers rhedeg y fenter ac mae bob amser yn wych gweld sut mae’r ffermwyr ifanc yn dod yn eu blaenau yn ystod y gystadleuaeth, sy’n gorffen gyda dosbarth unigryw yn Ffair Aeaf CAFC, ond hefyd ar ôl y gystadleuaeth. Unwaith y byddan nhw wedi cael profiad o gadw moch, mae’r rhan fwyaf yn mynd ymlaen i ddatblygu eu buchesi a’u busnesau llwyddiannus eu hunain yn gwerthu porc.”

Dywedodd Cadeirydd y CFfI, Caryl Haf, “Diolch i Menter Moch Cymru am y cyfle i gydweithio ar ein cystadleuaeth pesgi moch eto eleni. Mae CFfI Cymru yn hynod ddiolchgar i Menter Moch Cymru am roi cyfle mor wych unwaith eto i aelodau ddysgu sgiliau gwerthfawr. Sgiliau a fydd nid yn unig yn eu helpu i ddatblygu eu mentrau ond hefyd yn cefnogi datblygiad y diwydiant moch yma yng Nghymru.”

Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer Menter Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru 2022 yn agor ar 29 Ebrill ac yn cau ar 27 Mai 2022.

Am fwy o wybodaeth ar sut i ymgeisio, ewch i www.mentermochcymru.co.uk or www.yfc.wales


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle