Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu’r flwyddyn

0
417
Children running in meadow

Mae’r heriau unigryw sy’n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw. 

Mae Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn rhwydwaith Cymru gyfan sy’n cynnwys pob un o’r wyth prifysgol wrth iddynt weithio gyda Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n dod â’r byd academaidd, y rhai sy’n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a’r cyhoedd ynghyd er mwyn helpu i greu cymdeithas iachach. 

Un enghraifft o waith y sefydliad oedd arolwg ledled y wlad sy’n asesu effaith cau ysgolion a llacio’r cyfyngiadau ar lefelau gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant. Datgelodd fod plant y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau cysylltiedig wedi cael effaith wael ar blant; roedd rhai plant yn eistedd am 14 awr y dydd! 

Meddai’r Athro Kelly Mackintosh o Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe, cyd-gadeirydd y Sefydliad: “Mae llawer o ffactorau wedi arwain at eistedd am gyhyd. Datgelodd ein hadolygiad cysylltiedig fod y rhain yn amrywio o ffactorau unigol, megis oedran a rhyw, i ffactorau cymdeithasol, megis amgylchedd y teulu. 

“Mae hyn yn amlygu bod y broblem hon yn un gymhleth i’w datrys a bod angen i bawb – o deuluoedd i ysgolion a llunwyr polisi – gydweithio ar frys i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gwella iechyd meddwl y genhedlaeth nesaf.” 

Mae’r Sefydliad bellach yn awyddus i barhau i helpu ymarferwyr a llunwyr polisi drwy rannu ei arbenigedd a’i allu ymchwil. 

Meddai Cyfarwyddwr Ymchwil WIPAHS, yr Athro Melitta McNarry, hefyd o Brifysgol Abertawe: “Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n grŵp croesawgar a chyfeillgar sy’n gallu rhoi cymorth mewn amrywiaeth eang o bynciau ym meysydd gweithgarwch corfforol, iechyd a chwaraeon. 

“Rydyn ni am ddarparu’r atebion y mae eu hangen ar bartneriaid er mwyn eu helpu gyda’u camau nesaf, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch sut gallen ni helpu, mae croeso i chi gysylltu â ni.” 

Enghraifft arall o’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd cydweithrediad â Thriathlon Cymru, y corff cenedlaethol sy’n llywodraethu camp y triathlon yng Nghymru, a oedd am wybod a fu rhagor o achosion o bobl yn gorymarfer ac yn cael anafiadau gorddefnyddio yn sgîl y cynnydd yn y defnydd o blatfformau hyfforddiant ymarfer corff ar-lein yn ystod y pandemig. 

Yn dilyn ymgynghoriad, gwnaeth WIPAHS baratoi a dosbarthu arolwg pwrpasol, gan ganfod bod naw y cant o gyfranogwyr yn gorymarfer, a oedd yn debyg i dymor arferol ymhlith athletwyr o safon uchel.  

Llwyddodd Triathlon Cymru i ddefnyddio’r canfyddiadau er mwyn rhoi cyngor a chymorth gwell a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth i athletwyr. 

Meddai Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru a Chyd-gadeirydd y Sefydliad: “Mae gwaith WIPAHS wedi rhoi hwb mawr i allu Chwaraeon Cymru, a’r sector chwaraeon, i flaenoriaethu adnoddau a buddsoddiad a gwneud penderfyniadau gwybodus ar bolisïau. 

“Mae wedi gwneud cyfraniad hollbwysig wrth ymateb i anghenion ymchwil a deall rôl gweithgarwch corfforol a chwaraeon o safbwynt cyhoedd ehangach Cymru. Mae’r Sefydliad yn parhau i fod yn bartner strategol cynyddol bwysig ac mae’r adroddiad blynyddol yn dangos ansawdd a lled ei waith, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan.”  

Mae’r adroddiad blynyddol yn amlygu ymchwil a gwblhawyd eisoes gan y Sefydliad, sydd hefyd yn edrych tua’r dyfodol gyda rhagor o brosiectau. 

Mae’r rhain yn cynnwys gwerthusiad o’r fenter Active Education Beyond the School Day sy’n rhan o’r buddsoddiad gwerth £25m gan Lywodraeth Cymru mewn ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn mynd i’r afael ag effaith tlodi. 

Bydd y canfyddiadau’n helpu i ddarparu argymhellion ynghylch sut i greu ysgolion a all ennyn brwdfrydedd teuluoedd a chymunedau, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi. 

Mae’r prosiect cyffrous hwn yn enghraifft o’r ffordd y mae WIPAHS yn gweithredu ar draws sectorau er mwyn darparu tystiolaeth allweddol i hyrwyddo iechyd a lles i bawb yng Nghymru. 

Rhagor o wybodaeth am WIPAHS a’i waith 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle