TAN Cymru yn annog pleidleiswyr Sir Gaerfyrddin i feddwl am genedlaethau’r dyfodol wrth bleidleisio

0
310

Mae Transport Action Network Cymru [1] yn annog pobl i bleidleisio dros yr hinsawdd yn yr etholiad ddydd Iau 5ed o Fai [2]. Mae hyn yn dilyn y rhybuddion llwm yn adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) [3] am yr angen i gymryd camau brys i leihau allyriadau carbon. Bydd newid yn yr hinsawdd nid yn unig yn effeithio ar y blaned rydym yn ei gadael ar ôl i’n plant, gallai ei chostau economaidd y ganrif hon fod hyd at 51% o CMC byd-eang [4].

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Gan fod allyriadau trafnidiaeth yn cynrychioli un rhan o bump o’r holl allyriadau yng Nghymru ar hyn o bryd, bydd newid y ffordd rydym yn teithio yn hanfodol er mwyn osgoi cynnydd o fwy na 1.5°C yn y tymheredd byd-eang. Er bod arweinyddiaeth genedlaethol yn hanfodol, mae darpariaeth leol hefyd yn hollbwysig. Heb i gynrychiolwyr lleol weithredu hefyd, bydd y gost i bleidleiswyr yn awr ac yn y dyfodol yn enfawr.

Dywedodd Paula Renzel, ymgyrchydd dros ffyrdd a hinsawdd Cymru ar gyfer TAN Cymru:

“Er y bydd llawer o bobl yn pryderu am gostau byw, sydd yn deg, gallai’r ddaear gael ei dinistrio os nad ydyn ni’n lleihau allyriadau a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae angen inni ethol gwleidyddion sy’n deall y bydd buddsoddi mewn teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, inswleiddio cartrefi a chymryd camau eraill i gyd yn helpu gyda chostau byw. Nid yw gwneud dim yn opsiwn a bydd yn ein condemnio ni a chenedlaethau’r dyfodol i brisiau uwch am byth.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle