Yn ddiweddar, mae rhai o dimau rygbi ysgolion Ceredigion wedi bod yn cystadlu ar lefel genedlaethol yn y digwyddiad ‘Road to Principality’ a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Bu dathlu mawr yn Ysgol Bro Teifi ddydd Llun 25 Ebrill yn dilyn llwyddiant eu tîm rygbi merched o dan 14 oed ar lefel genedlaethol. Yn dilyn buddugoliaethau mewn cyfres o gemau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yn ystod y misoedd diwethaf, cafodd y tîm gyfle i chwarae yn y gêm derfynol genedlaethol yn Stadiwm Principality yn erbyn Ysgol Brynhyfryd, Sir Ddinbych.
O flaen torf o ryw 150 o gefnogwyr a oedd wedi teithio i Gaerdydd i weld y gêm, llwyddodd Bro Teifi i ennill o 34-19 mewn gêm gystadleuol a chyflym.
Mr Gareth Evans yw Pennaeth Dros Dro yr ysgol. Dywedodd: “Ar ddechrau tymor newydd, roedd yn wych gallu dathlu llwyddiant y merched ar y cae rygbi yn dilyn cyfres o gemau lle gwelwyd y tîm yn trechu Ysgol Bro Dinefwr, Plas Mawr, Bishopston a Chwm Rhymni ymysg eraill. Hoffwn longyfarch y merched ar eu llwyddiant ysgubol a diolch yn fawr iawn i’r tîm hyfforddi sef Llyr James, Gemma Potter a Stephanie Gough am eu gwaith.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle