Galwad am gefnogaeth i daith gerdded llwybr arfordirol elusennol y GIG 

0
251

Mae eich elusen GIG leol yn galw ar bobl i fynd ar un o deithiau cerdded arfordirol harddaf Cymru yr haf hwn – i helpu i godi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Drwy gymryd rhan yn Nhaith Gerdded Llwybr Arfordir Apêl Cemo Bronglais ar 25 Mehefin byddwch yn helpu Elusennau Iechyd Hywel Dda i godi £500,000 i wireddu’r freuddwyd o ddarparu uned ddydd cemotherapi bwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Mae’r daith gerdded hefyd yn gyfle i ddangos eich cefnogaeth i nyrsys arbenigol Ysbyty Bronglais -Rhian Jones ac Eirian Gravell! Mae’n nodi rhan olaf eu taith gerdded epig 85 milltir ar hyd llwybr yr arfordir rhwng Llwyngwril ac Aberteifi i godi arian ar gyfer yr Apêl.

Mae’r ddwy, sy’n gweithio yn yr uned ddydd cemotherapi, wedi bod yn hyfforddi ers wythnosau. Byddent wrth eu bodd pe byddech yn ymuno â nhw ar gyfer y cymal olaf.

Dywedodd Rhian ac Eirian: “Os hoffai rhai cleifion, eu teulu a’u ffrindiau, neu unrhyw un arall, ymuno â ni ar y darn olaf o’r daith gerdded o’r Borth ar 25 Mehefin i gefnogi’r Apêl byddai hynny’n wych.”

Gofynnir i chi gyfrannu £25 i gymryd rhan, a bydd pob ceiniog yn mynd i’r Apêl. Bydd ymgeiswyr yn derbyn potel ddŵr a medal am ddim.

Mae’r daith yn cychwyn yn y Borth ac yn gorffen wrth y Bandstand ar Bromenâd Aberystwyth.

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Dewch i ni wneud hon yn daith gerdded arbennig iawn ar gyfer Apêl Cemo Bronglais. Dyma un o’r ffyrdd symlaf y gall pobl gymryd rhan a dangos eu cefnogaeth i’r Apêl.

“Gyda chefnogaeth ein cymunedau lleol, gall ein breuddwyd o gael uned newydd sbon, fodern ac addas ar gyfer y dyfodol i wella profiad ein cleifion ddod yn realiti.” I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, ewch i https://www.hywelddahealthcharities.org.uk

Gall ymgeiswyr a hoffai ddefnyddio’r daith gerdded hefyd i godi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais sefydlu tudalen codi arian bwrpasol ar ôl cofrestru. Ewch i dudalen Apêl Cemo Bronglais https://hyweldda.enthuse.com/cf/bronglais-chemo-appeal

Mae’r digwyddiad yn dechrau am 11am yn Borth. Bydd cyfarwyddiadau llawn, gwybodaeth cofrestru cyn y daith gerdded a manylion briffio yn cael eu e-bostio at yr holl gyfranogwyr wythnos cyn y digwyddiad.

Ystyrir bod y llwybr arfordirol o Borth i Aberystwyth yn llwybr lefel gallu cymedrol. Er bod y llwybrau’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn hawdd eu llywio, mae gan y daith sawl llethr serth heriol. Argymhellir esgidiau a dillad addas. Bydd y daith gerdded yn cael ei harwain a’i chefnogi’n llawn gan wirfoddolwyr, gyda chyfranogwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r daith ar eu cyflymder eu hunain. Yn gyffredinol, mae’r daith gerdded yn cymryd rhwng tair a phedair awr ar gyfartaledd i’w chwblhau.

Mae gwasanaeth bws a thrên rheolaidd o Aberystwyth i Borth. Lleiafswm oedran cyfranogwyr yw 14 oed. Rhaid i ymgeiswyr dan 18 oed fod ag oedolyn sy’n cymryd rhan gyda nhw. Rhaid cael un oedolyn sy’n cymryd rhan ar gyfer pob tri phlentyn sy’n cymryd rhan.

Mae’r llwybr cerdded yn mynd â chi o’r Borth i’r Wallog, ymlaen i Fae Clarach ac ar hyd y traeth, ac oddi yno i fyny drwy’r coed i gyfeiriad Craig Glais, lle byddwch chi’n disgyn i lan y môr, gan orffen wrth Bandstand Aberystwyth.

Pan gychwynnwch, byddwch yn mwynhau golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion i gyfeiriad Sir Benfro i’r de, gydag Eryri a Phenrhyn Llŷn bendigedig y tu ôl i chi i’r gogledd. Cadwch lygad allan am ddolffiniaid.

Os hoffech wybod mwy am Daith Gerdded Llwybr Arfordir Apêl Cemo Bronglais, gallwch ffonio Elusennau Iechyd Hywel Dda ar 01970 613881 neu e-bostio bronglaischemoappeal.hdd@wales.nhs.uk

Am fwy o wybodaeth am yr apêl, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle