Rôl newydd i wella profiad mamolaeth

0
376
Rebecca Hall

Mae rôl newydd wedi’i chreu i gefnogi menywod a’r rhai sy’n geni i gael mynediad at wasanaethau mamolaeth, cyn, yn ystod ac ar ôl genedigaeth.

Bydd y fydwraig Rebecca Hall yn cefnogi defnyddwyr gwasanaethau mamolaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Bydd Rebecca yn siarad â menywod a phobl sy’n geni trwy gyfryngau cymdeithasol, cyfarfodydd grŵp a thrwy eu bydwragedd eu hunain.

Lleolir swydd Rebecca yn bennaf yn Ysbyty Glangwili ond bydd yn teithio i Ysbytai Bronglais a Llwynhelyg a chlinigau cyn geni ar draws y tair sir.

Dywedodd Rebecca: “Ar ôl gweithio fel bydwraig am y tair mlynedd a hanner diwethaf, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu rôl newydd Bydwraig Defnyddiwr Gwasanaeth Mamolaeth/Profiad y Claf.

“Rwy’n ymdrechu i weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth mamolaeth ac eisiau clywed am eu profiadau o’r gwasanaeth mamolaeth.

“Mae’n gyffrous gweithio ochr yn ochr â defnyddwyr gwasanaethau mamolaeth i greu amgylchedd geni cadarnhaol.”

Ychwanegodd Kathryn Greaves, Pennaeth Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Menywod: “Mae cael bydwraig arbenigol benodol ar gyfer profiad menywod i ymgysylltu â menywod, pobl sy’n geni a theuluoedd yn hollbwysig i unrhyw wasanaeth mamolaeth. Mae’n cefnogi’r gwasanaeth i ddeall ansawdd profiadau menywod a’r bobl sy’n geni sy’n dewis defnyddio gwasanaethau mamolaeth Hywel Dda.

“Mae’r rôl yn helpu menywod a’r gwasanaeth i chwilio am gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae rôl Rebecca yn annog ac yn creu canolbwynt cymunedol sy’n dod â menywod a phobl sy’n geni sy’n ceisio gwasanaethau yn Hywel Dda ynghyd a’r timau sy’n cefnogi menywod trwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth a thu hwnt i gyd-gynhyrchu gwasanaeth sy’n cyd-fynd ag anghenion y boblogaeth leol.

“Mae angen Rebecca ar bawb ac rydym yn ffodus ei bod wedi dewis gweithio yn Hywel Dda.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle