Mae Anna Crane-Jones, gwraig fusnes a mam i dri o blant, yn trefnu Dawns Haf i godi arian at Apêl Cemo Bronglais ar ôl derbyn triniaeth am ganser y fron ei hun.
Dywedodd Anna ei bod am gefnogi’r apêl am uned ddydd cemotherapi newydd ar ôl i staff yno fod mor “rhyfeddol” a “dim byd yn ormod o drafferth”.
Mae hi’n apelio am roddion o wobrau arwerthiant a raffl ar gyfer digwyddiad 25 Mehefin, ar ôl gosod targed codi arian o £10,000 iddi hi ei hun.
Dywedodd Anna: “Roedd yn gymaint o sioc i gael diagnosis o ganser y fron dair blynedd yn ôl, yn 37 oed. Cefais hyd i lwmp tra ar wyliau sgïo ac aeth y cyfan oddi yno.
“Fe ddilynodd lwmpectomi, ynghyd â chwe mis o gemotherapi, pedair wythnos o radiotherapi a blwyddyn o imiwnotherapi. Rwy’n dal i fynd am archwiliadau bob chwe mis.”
“Roedd y staff yn yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn wych. Allen nhw ddim bod wedi gwneud dim mwy,” ychwanegodd Anna, sy’n byw yn Llanbedr Pont Steffan gyda’i gŵr, y ffermwr Ceirian Jones, a’u tri mab, Harvey, 17, Kai, 14 oed, ac Osian, wyth oed.
“Roedd yn anodd i’r bechgyn ond roeddem bob amser yn aros yn bositif a nawr rwy’n teimlo’n iawn.”
Cynhelir y ddawns yng Ngwesty’r Marine yn Aberystwyth a bydd diod groeso, swper tri chwrs, adloniant gan David Barnes o The Voice, ocsiwn a raffl.
Dywedodd Anna: “Roeddwn i eisiau trefnu rhywbeth i godi arian i’r Apêl i ddweud diolch. Mae cymaint o bobl wedi’u heffeithio gan ganser ac mae mor bwysig bod pawb yn gallu dod at ei gilydd i gefnogi Apêl Uned Cemo Bronglais gyda’r ymdrech olaf i godi’r arian hanfodol sydd ei angen i agor yr uned newydd.
“Mae cefnogaeth pobol leol i’r ddawns wedi bod yn wych. Mae’r holl fyrddau ar gyfer y digwyddiad bellach wedi’u cadw ac mae llawer o fusnesau eisoes wedi bod mor hael â rhoddion.”
I gynnig gwobr arwerthiant neu raffl, neu i noddi’r digwyddiad, cysylltwch ag Anna ar 07973 939126.
Ymhlith yr eitemau arwerthiant sydd eisoes wedi’u cadarnhau mae taleb Bluestone gwerth £500, tocynnau Elton John yn Abertawe, gwyliau mewn bwthyn, reid balŵn aer poeth a phryd gyda’r nos i ddau yn Neuadd Ynyshir.
Cafodd Apêl Cemo Bronglais ei lansio ddiwedd mis Tachwedd y llynedd ac mae cefnogaeth fawr wedi bod gan gymunedau lleol Ceredigion, Gwynedd a Phowys i’r Apêl.
Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn derbyn triniaeth gwrth-ganser hanfodol yn Ysbyty Bronglais, cyfanswm o tua 300 o bobl y flwyddyn. Bydd uned ddydd cemotherapi newydd yn darparu profiad llawer gwell i gleifion mewn cyfleuster modern, addas ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i deilwra ar gyfer cleifion ar wahanol gamau o’u salwch.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle