Lansio Clinigau Arloesol Crychguriad y Galon

0
281

Mae prosiect wedi lansio yng nghlwstwr Tywi/Taf (2Ts) gyda’r nod o integreiddio’r model cardioleg cymunedol gyda gofal sylfaenol. Bydd hyn yn gwella’r gwasanaeth a ddarperir i gleifion sy’n profi crychguriadau’r galon er mwyn lleihau’r amseroedd aros rhwng atgyfeiriad ac apwyntiad cyntaf o fewn y gwasanaeth crychguriadau’r galon. Hwn fydd y clinig crychguriadau’r galon yn seiliedig ar ofal sylfaenol cyntaf i gael ei ddarparu mewn clwstwr yng Nghymru sy’n caniatáu gofal yn nes at y cartref.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael ag amseroedd aros, mae’r gwasanaeth hwn wedi’i ddatblygu gyda’r nod o ddarparu ymateb cyflymach i anghenion cleifion, yn enwedig ar gyfer y rhai y canfyddir eu bod yn wynebu risg is. Bydd y prosiect yn darparu asesiad cynnar o gleifion â chrychguriadau yn y lleoliad gofal sylfaenol, gan roi asesiadau risg i gleifion risg uchel i’w cyfeirio at gardiolegydd.

Dywedodd Dr Kerry Phillips, Arweinydd Meddygon Teulu ar gyfer y clwstwr 2Ts: ‘’Rydym yn gyffrous iawn i integreiddio gwasanaethau cardioleg arbenigol bellach i’n model lleol, gan ddarparu gwasanaeth amserol i gleifion yn nes at adref gan ddefnyddio technoleg newydd.

“Bydd cleifion yn elwa o wasanaeth gwell gyda diagnosis cyflym neu sicrwydd mewn lleoliad cymunedol.’’

Bydd y prosiect hwn yn cael ei arwain gan Nyrs Cardioleg Integredig gyda phrofiad o reoli rhythm y galon ac ymchwilio. Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo integreiddio gwasanaethau cardioleg ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.

Mae’r Clinigau Crychguriad y Galon wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yn hyn, gydag amseroedd aros o dan 4 wythnos. Mae cleifion wedi ymateb yn dda i’r gwasanaeth newydd hwn ac wedi gweld canlyniadau cyflym a chadarnhaol i’r model triniaeth newydd hwn. Nod y prosiect hwn yn y dyfodol yw cynyddu ac ehangu integreiddio gwasanaethau cardioleg rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle