Etholiadau Lleol 2022 – canlyniadau 

0
2380

MAE canlyniadau’r Etholiadau Lleol 2022 yn Sir Gaerfyrddin wedi’u datgan.

Gellir cael gwybodaeth am y cynghorwyr newydd a’r cynghorwyr sydd wedi’u hailethol ar gyfer pob un o’r 51 ward etholiadol yma www.sirgar.llyw.cymru/etholiadau

Yn ogystal â rhestru’r holl gynghorwyr sydd wedi’u hethol i gynghorau tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, mae’n cynnwys manylion y 75 o gynghorwyr a fydd yn cynrychioli Cyngor Sir Caerfyrddin dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Plaid Cymru wedi sicrhau 38 o’r 75 o seddi; mae Llafur Cymru wedi sicrhau 23 o seddi; ac mae’r 14 o seddi sydd yn weddill wedi’u sicrhau gan ymgeiswyr annibynnol.

Bydd y pleidiau a’r grwpiau yn awr yn cwrdd i drafod a phenderfynu sut y bydd gweinyddiaeth y cyngor yn cael ei ffurfio.

Roedd dros 41 y cant o bleidleiswyr cymwys Sir Gaerfyrddin wedi pleidleisio yn Etholiadau Lleol 2022 ar 5 Mai, hwn oedd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru allu bwrw eu pleidlais dros gynghorau sir, tref a chymuned.

Cafodd y pleidleisiau eu cyfrif yn yr Hwb gwasanaethau cyhoeddus yn Rhodfa’r Santes Catrin, Caerfyrddin, dan arweiniad y Swyddog Canlyniadau Wendy Walters.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am Gyngor Sir Caerfyrddin yn www.sirgar.llyw.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle