Gwaith yn parhau i gael gwared â choed y mae clefyd coed ynn yn effeithio arnynt 

0
2075

Mae gwaith yn parhau ledled Sir Gaerfyrddin i gael gwared â choed ynn heintiedig sy’n eiddo i’r cyngor sy’n effeithio ar y briffordd.

Yn ddiweddar, mae contractwyr arbenigol wedi bod yn cwympo coed drwy gydol y nos ar ffordd gyswllt yr A4138 yn yr Hendy i gael gwared â choed marw a choed sy’n marw sy’n peri risg i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr.

Clefyd ffwngaidd yw clefyd coed ynn, sy’n ymledu o’r dail i’r canghennau, gan achosi i’r coed farw. Gall canghennau marw a choed cyfan marw fynd yn frau iawn a syrthio, gan greu risg ddifrifol i’r cyhoedd.

Atgoffir tirfeddianwyr sydd â choed heintiedig eu bod yn gyfrifol, o dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a 1984, a Deddf Priffyrdd 1980, am sicrhau nad yw eu coed yn peri risg annerbyniol i bobl ac eiddo yn ogystal â sicrhau eu bod yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mewn perthynas ag osgoi niwed i adar, eu hwyau a’u nythod.

Os bernir bod coed yn peri bygythiad uniongyrchol a bod yr awdurdod eisoes wedi cysylltu â’r tirfeddianwyr, mae Hysbysiadau Cyfreithiol bellach yn cael eu cyflwyno iddynt i gael gwared â’r coed.  Os nad yw perchennog y goeden yn cydymffurfio â’r hysbysiad bydd yr awdurdod yn cael gwared â’r risg ac yn codi tâl ar y perchennog am y gwaith.

Mae dyletswydd gyfreithiol ar y cyngor o dan y Ddeddf Priffyrdd i gadw ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr ac mae clefyd coed ynn yn fater difrifol i’r cyngor ac i dirfeddianwyr.

Mae’n dasg beryglus ac arbenigol ac mae’r cyngor wedi cyflogi meddygon coed profiadol sydd â chymwysterau i gyflawni’r gwaith hwn.

Dywedodd Ainsley Williams, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Yn anffodus, rydym wedi gorfod dechrau cyflwyno hysbysiadau cyfreithiol i dirfeddianwyr sydd wedi methu â chael gwared â’r coed heintiedig hyn. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom o dan y Ddeddf Priffyrdd i gadw ein ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr ac mae clefyd coed ynn yn fater difrifol i’r cyngor ac i dirfeddianwyr. Dylai tirfeddianwyr hefyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mewn perthynas ag osgoi niwed i adar, eu hwyau a’u nythod wrth gynllunio i gael gwared â’r coed.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn bwrw ymlaen â’i raglen plannu coed i helpu i liniaru rhai o’r coed sydd wedi’u colli.

Yn ddiweddar, plannwyd 120 o goed ar safle Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a bwriedir plannu mwy yn ddiweddarach eleni.

Mae paratoadau hefyd ar y gweill i blannu coed ar safleoedd mawr eraill yn y sir.

Mae gwybodaeth am goed ynn heintiedig ar gael ar wefan y cyngor.  https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/cynllunio/bioamrywiaeth/clefyd-coed-ynn/#.YnJbDYfMJPZ 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle