Bod yn uchelgeisiol ac anelu’n uchel…athroniaeth sydd wedi dyrchafu un o fentrau arallgyfeirio mwyaf newydd Cymru i lefelau newydd

0
342
Dan, Edith and Dawn, By the Wye, wedi'i ymuno gan eu swyddog datblygu lleol, Gwen Price
https://youtu.be/Fv3Ea4ytyBo

“Mae Cyswllt Ffermio wedi caniatáu i mi a fy nheulu ddatblygu hyder, sgiliau a rhwydweithiau newydd i’n helpu i greu ein menter twristiaeth newydd, gan ganiatáu i ni gynyddu ein trosiant o ddim i gyfanswm anhygoel o £150,000 yn ystod ein blwyddyn gyntaf wrth y gwaith.”

Dyma eiriau Edith Farnworth, cyn-gwnstabl yn yr heddlu, sydd bellach yn weithredwr busnes twristiaeth amser llawn ac un o ysgogwyr prosiect arallgyfeirio newydd ar fferm deuluol yng Nghanolbarth Cymru.

Mae dull ‘ecogyfeillgar’ a dyfeisgar y teulu Farnworth o ddarparu gwyliau teuluol yn y Gelli Gandryll, un o drefi marchnad harddaf y Gymru wledig, wedi dyrchafu glampio moethus i lefel arall – yn llythrennol. Mae ‘By the Wye’ yn cynnig gwyliau gwahanol, lle ceir pebyll ‘saffari’ moethus yn nythu ymhlith pennau’r coed mewn coetir adferedig ar lannau’r afon enwog. Saif pob pabell ar lwyfan sy’n hofran uwchlaw llawr y coetir, ac mae’r ategion yn diflannu i mewn i sgriwiau daear cynaliadwy y gellir eu symud fel y mynnir, heb wneud unrhyw niwed. Maent oll yn cynnwys gwelyau moethus, soffas godidog, dŵr poeth o’r tap, toiledau sy’n fflysio a basgedi sy’n llawn cynnyrch lleol o ansawdd uchel.

Lleolir y maes gwersylla diarffordd ar lwybr Clawdd Offa, ddim ond deg munud ar droed o dref brysur y Gelli Gandryll, sy’n enwog am ei gŵyl lenyddiaeth sy’n fawr ei bri ledled y byd. Heddiw, mae’r busnes newydd arobryn hwn – sydd wedi ennill Gwobr Busnes Twristiaeth a Hamdden Newydd Gorau Cymru 2021 – yn ticio llawer o flychau, nid yn unig i ymwelwyr sy’n dymuno dianc i gefn gwlad, ond hefyd i’r teulu Cymreig craff hwn a brynodd y coetir cyfagos ac erwau ychwanegol o dir i droi eu tyddyn yn fusnes sydd bellach wedi ennill ei blwyf fel cyrchfan wyliau flaenllaw yng Nghymru. Mae nifer o bapurau cenedlaethol a chylchgronau, sianelau teledu a sylwebwyr o fyd darlledu, yn cynnwys Adam Henson a Paul Merton, oll wedi ymweld â chanu ei glodydd.

Steve, y tad, yw’r dyluniwr gweledigaethol sy’n rheol prosiectau’r safle a’r holl waith adeiladu, ac mae gan Dawn, y fam, gefndir ym myd busnes a hi sy’n rheoli’r holl arian. Mae eu mab Dan, sy’n feddyg coed, yn rheoli’r coetir, ac ef yw’r athrylith greadigol sy’n gyfrifol am y man chwarae ‘gwyrdd’ i blant. Bydd hefyd yn rhedeg sesiynau coedwriaeth i deuluoedd ac ef yw’r ‘dyn cwrdd a chyfarch’, a fydd yn croesawu gwesteion â berfa i gludo eu bagiau i lawr llwybr 800 llath. Erbyn hyn, Edith, gwraig Dan, yw arbenigwr marchnata a chyfryngau cymdeithasol y teulu. Yn ôl Edith, i Gyswllt Ffermio y mae’r diolch am ei galluogi hi i sicrhau fod y gymysgedd o ddeunyddiau marchnata yn ‘berffaith’! 

“Rydym oll wedi torri ein cwys ein hunain o ran ein rôl, ond mewn gwirionedd, byddwn oll yn torchi llewys ac yn helpu â phopeth,” meddai Edith.

Gyda’i gilydd, mae aelodau’r teulu wedi gweddnewid coetir coed llydanddail hynafol ar lannau Afon Gwy a oedd wedi gordyfu ar un adeg, a’i droi yn un o fusnesau twristiaeth ‘gwyrdd’ mwyaf anarferol Cymru. Maent yn cydnabod bod Cyswllt Ffermio, ei raglen datblygiad personol Agrisgôp, a’r ystod eang o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth strategol a’r hyfforddiant cymorthdaledig y mae pob un ohonynt wedi manteisio arnynt, wedi’u helpu i sicrhau dechrau teg i’w busnes pan wnaethant gychwyn derbyn archebion yng ngwanwyn 2020.

Tra’r oedd mam, dad a Dan yn rheoli prosiect datblygu’r gwaith ar y safle yn 2019, roedd Edith (a oedd ar y pryd yn fam i ddau o blant bach – cyrhaeddodd y trydydd ychwanegiad at y teulu Farnworth ym mis Mawrth) yn treulio pob munud yn ymchwilio i sefydliadau a allai gynnig cymorth ac arweiniad ar gyfer prosiect arallgyfeirio mawr cyntaf y teulu.

“Fy ngham cyntaf ymlaen mewn gwirionedd oedd ymuno â grŵp Agrisgôp ar gyfer menywod yn unig, a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod ni’n dysgu sut i fynd ati ein hunain i hyrwyddo a marchnata busnesau twristiaeth ar ffermydd,” meddai Edith.

Dan arweiniad ffermwr lleol o’r enw Gareth Davies, fe wnaeth cyfeillgarwch a chefnogaeth holl aelodau’r grŵp – y dywed Gareth eu bod oll yn ‘hynod o benderfynol a galluog’ – gynorthwyo pob un ohonynt i ddatblygu’r sgiliau i reoli eu gwaith marchnata a’u sianelau cyfryngau cymdeithasol eu hunain.

“Roeddem ni oll yn benderfynol i gadw pob ceiniog o incwm o’n mentrau unigol a sicrhau bod treuliau mor isel ag y bo modd,” meddai Edith.

Oherwydd Covid, cafodd y grŵp un cyfarfod wyneb yn wyneb yn unig, ac wedi hynny cafwyd cyfarfodydd o bell, ond fe wnaeth Gareth eu cyflwyno i arbenigwyr ar dwristiaeth, arallgyfeirio a chyfryngau cymdeithasol ar ffermydd, a dywed Edith fod hynny wedi’i galluogi hi ac aelodau eraill y grŵp i ddatblygu’r sgiliau i hyrwyddo eu mentrau busnes yn effeithiol.

Dawn Dan Edith
Dawn, Dan and Edith, By the Wye.

“Ar ôl i’r arbenigwyr a oedd â phrofiad sylweddol o farchnata ar-lein gael eu cyflwyno i ni, ymhen dim, fe wnaethom ni ddatrys ein hamharodrwydd gwreiddiol i ddefnyddio Facebook, Instagram a Twitter at ddibenion busnes yn hytrach nag at ddibenion personol yn unig, ac fe wnaethom ni sylweddoli’n syth pa mor werthfawr yw’r sianelau hyn.

“Nid oeddwn i wedi dirnad pa mor werthfawr, o ran cael hwb i’n hyder, oedd cael cyfle i sgwrsio â menywod eraill a oedd yn ymwneud â phrosiectau arallgyfeirio ar ffermydd, oherwydd roedd gan bawb ohonom ni yr un penderfynoldeb a’r dyfalbarhad i ddysgu a chefnogi ein gilydd.”

Cysylltodd Edith â Gwen Price, swyddog datblygu lleol Cyswllt Ffermio, a gyfeiriodd y teulu at ystod o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth strategol, cymorthfeydd un-i- un a chyrsiau hyfforddi cymorthdaledig a gynigir gan Cyswllt Ffermio. Fe wnaeth Gwen hefyd eu perswadio i ddefnyddio Storfa Sgiliau, sef adnodd storio data ar-lein Cyswllt Ffermio, a wnaeth helpu pob un ohonynt i nodi pa fath o hyfforddiant a fyddai’n fwyaf buddiol.

“Mae cael mynediad at gyrsiau hyfforddiant TGCh, datblygu gwefannau ac optimeiddio peiriannau chwilio, cymorth cyntaf  brys a diogelwch bwyd wedi fy ngalluogi i ddatblygu set newydd o sgiliau y byddaf yn eu defnyddio’n ddyddiol.”

Mae Dan, sydd hefyd wedi cyfranogi mewn nifer o gyrsiau hyfforddiant technegol Cyswllt Ffermio (“plygu perthi traddodiadol sydd nesaf ar fy rhestr!”), wedi creu man chwarae naturiol i blant gan ddefnyddio dim ond y coed sydd wedi cwympo neu goed sy’n pydru, ac fe wnaeth hynny ddarparu goleuni angenrheidiol iawn yn ystod y gwaith gwreiddiol i adfywio’r coetir.

Cynigir gweithgareddau dewisol i’r teulu cyfan, gan gynnwys gwersi cynnil ynghylch pwysigrwydd yr ecosystem trwy gyfrwng gwestai chwilod ac abwydfeydd, a mynd i grwydro i ganfod adar a gloÿnnod byw, a theithiau cerdded ‘chwilota am swper’ poblogaidd Steve, pan fydd yn addysgu oedolion a phlant sut i chwilio am ddanteithion bwytadwy, gan gynnwys ffyngau a garlleg gwyllt, danadl poethion, a’r mefus gwyllt bychan iawn sy’n tyfu’n doreithiog ar lawr y coetir.

“Roeddem yn dymuno sicrhau y gall ein gwesteion ymgolli’n llwyr ym mhob agwedd o fywyd cefn gwlad a phopeth sydd gan yr ardal hon i’w gynnig i gerddwyr, beicwyr, canŵ-wyr a marchogwyr heb gael eu tarfu gan y teledu neu’r WiFi,” meddai Edith.

Mae’r busnes wedi cael ei ganmol i’r cymylau mewn adolygiadau gan gwsmeriaid ac wedi ennill llu o wobrau mawreddog, felly mae’n ymddangos y bydd yn ddyfodol yn ddisglair i ddwy, ac yn ôl pob tebyg, tair cenhedlaeth o’r teulu hwn o ffermwyr entrepreneuraidd.

Caiff Cyswllt Ffermio ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle