Taith Merched Prydain yn dychwelyd i Sir Gaerfyrddin

0
598
Womens Tour

Does dim llawer o amser i fynd cyn bydd beicwyr benywaidd gorau’r byd yn rasio drwy Sir Gaerfyrddin fel rhan o Daith Merched Prydain.

Bydd tua 108 o feicwyr yn rasio drwy’r sir i’r llinell derfyn ar ben y Mynydd Du rhwng Llangadog a Brynaman, fel rhan o gymal pump ddydd Gwener, 10 Mehefin.

Bydd y ras yn cychwyn ym Mharc Gwledig Pen-bre am 10.45am a bydd y beicwyr yn mynd drwy Pinged, Carwe, Pontyberem, Horeb, Llansawel, a Llangadog.

Bydd rhannau o’r ffyrdd yn cael eu cau dros dro ar hyd y llwybr 65 milltir o hyd a bydd hyn yn digwydd rhwng 10.45am a 13.50pm.

Bydd y ffyrdd yn ailagor unwaith y bydd y beicwyr wedi mynd trwodd. Bydd y ffordd dros y Mynydd Du ar gau’n llwyr rhwng 5am-5pm.  

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar ITV4 gyda’r rhan fwyaf o’r ffilmio yn cael ei wneud o hofrennydd a chan griwiau camerâu a fydd yn dilyn y ras.

Mae Taith y Merched yn gadael ddydd Llun, 6 Mehefin ac yn cyd-fynd â diwrnod olaf penwythnos Gŵyl y Banc pedwar diwrnod o hyd yn y DU i ddathlu Jiwbilî Platinwm Brenhines Elizabeth yr II. Bydd y ras yn dod i ben gyda rownd derfynol fawreddog chwe diwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn, 11 Mehefin.

Yn flaenorol cynhaliwyd Grand Départ Taith Dynion Prydain ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yno hefyd y gorffennodd Taith y Merched yn 2019.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis unwaith yn rhagor ar gyfer digwyddiad beicio mor fawr. Yn y gorffennol mae’r digwyddiad wedi rhoi hwb economaidd i’r sector twristiaeth ac wedi rhoi llawer o sylw cadarnhaol i ni yn y cyfryngau.”

Mae rhagor o wybodaeth am Daith y Merched ar gael ar y wefan https://www.womenstour.co.uk/stages/stage-5/.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol, cysylltwch â : Hamdden@sirgar.gov.uk

Fone: 01267 234567.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle