Cytundeb ar Senedd fwy â chydbwysedd rhywedd yn ‘hwb i ddemocratiaet

0
345
Rhys ab Owen MS

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’n frwd gytundeb rhwng ei Harweinydd a’r Prif Weinidog fel llwybr at ‘Senedd fwy yn gwneud mwy o wahaniaeth er lles pobl Cymru’.

Mae diwygio’r Senedd yn ymrymiad allweddol o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mewn llythyr ar y cyd at bwyllgor o’r Senedd, datgana Adam Price AS a Mark Drakeford AS eu bod wedi cytuno ar becyn o ddiwygiadau.

Yn ôl eu cynllun, byddai’r newiadau yn eu lle erbyn yr etholiadau nesaf yn 2026, gyda nifer yr aelodau yn cynyddu i 96.

Cânt eu hethol drwy system gwbl gyfrannol- gan wneud Cymru y wlad gyntaf ym Mhrydain i ddiddymu’r system Cyntaf i’r Felin ar lefel seneddol. 

Wrth ymateb i’r llythyr ar y cyd, meddai Rhys ab Owen AS llefarydd Grwp Senedd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad,

“Mae’r cytundeb hwn yn hanesyddol. Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer Senedd gryfach gyda mwy o gapasiti i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled ein gwlad gan roi hwb i’n democratiaeth – a’i wneud yn decach ac yn fwy cynrychioliadol.

“Bydd rhai o ymrwymiadau maniffesto allweddol Plaid Cymru nawr yn cael eu gweithredu. Bydd gennym Senedd gryfach gyda 96 o aelodau yn cael eu hethol drwy system bleidleisio etholiadol gyfrannol – yn gyfreithiol gytbwys o ran rhywedd a hynny erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.

“Nid mater o fod eisiau rhagor o wleidyddion yw hwn. Mae’n fater o sicrhau fod ein Senedd ni yn addas i gynrychioli ein pobl ac adlewyrchu holl leisiau a dyheadau cymdeithas Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle