Annog pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau beicio yw nod buddsoddiad gwerth ÂŁ50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters (dydd Gwener 13 Mai).
Yn ystod ymweliad ââr elusen Pedal Power, a leolir yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddaiâr cyllid yn ariannu llwybrau beicio newydd a chyfleusterau ledled Cymru.
Dywedodd Lee Waters, sydd hefyd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth:
âMae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac yn rhan oân hymrwymiad i wneud beicioân haws, fel y gall pobl wneud llai o deithiau mewn ceir a theithio mewn ffordd syân well ar gyfer ein planed.
âMae annog pobl i gerdded neu feicio ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio eu ceir yn her fawr inni, ond maeân rhywbeth maeân rhaid inni fynd iâr afael ag ef er mwyn inni gyrraedd ein targed i fod yn garbon sero-net erbyn.
âMae angen inni sicrhau bod gennyn niâr seilwaith aâr llwybrau cywir ar waith fel y gall pobl ddewis beicio ar gyfer eu siwrneiau bob dydd â mae angen inni sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd.â
Un sefydliad syân manteisio ar y buddsoddiad hwn yw Pedal Power yn ne Cymru.
Fel rhan o gyfres o gynlluniau e-feiciau peilot gan Lywodraeth Cymru, derbyniodd yr elusen ÂŁ0.21 miliwn ar gyfer ei phrosiect âSee Cycling Differentlyâ, sydd ââr nod o  wneud beicioân fwy cynhwysol drwy cynnig amrediad o e-feiciau. Â
Diolch iâr arian hwn, maeâr elusen wedi ehangu ei fflyd o e-feiciau ac maeân annog pobl i wneud rhagor o feicio.
Dywedodd Cyfarwyddwr Pedal Power, Caerdydd, Siân Donovan:
âMae beicio yn ffordd wych i bobl o bob oedran a gallu gael hwyl, bod yn fwy annibynnol a mwynhau ymdeimlad o ryddid â rhywbeth sydd wedi bod yn llinell fywyd ar gyfer llawer yn ystod y pandemig.
âRydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn ein helpu i barhau i gael gwared ar rwystrau syân atal pobl rhag beicio, i sicrhau bod beicioân gallu bod yn wirioneddol hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.â
Fel rhan oâr buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw, bydd pob awdurdod lleol yn derbyn o leiaf ÂŁ500k, gyda dyraniadau ychwanegol wedi cael eu dyfarnu yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle