Prif Weithredwr Tir Coed yn rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl gwneud cyfraniad rhagorol i ddatblygiad y sefydliad

0
388
Tir Coed CEO Ffion Farnell

Heddiw, mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Elusen Gymreig Tir Coed wedi cyhoeddi y bydd Ffion Farnell yn rhoi’r gorau i’w rôl fel y Prif Swyddog Gweithredol o fis Hydref 2022.

Bydd Ffion Farnell, Prif Swyddog Gweithredol Tir Coed, yn rhoi’r gorau i arwain y sefydliad yn yr Hydref ar ôl treulio 12 mlynedd gyda’r sefydliad – naw mlynedd fel Prif Swyddog Gweithredol, blwyddyn fel Swyddog Datblygu a dwy flynedd bellach yn darparu gweithgareddau coetir.  Yn ystod ei chyfnod gyda’r elusen, mae tua 8,000 o bobl wedi cael eu cynorthwyo, y mae nifer ohonynt wedi symud ymlaen i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant.

Yn ystod arweinyddiaeth Ffion, mae’r sefydliad wedi mynd o nerth i nerth, gan lwyddo i ddarparu ystod eang o brosiectau addysgol, hyfforddiant a lles cymunedol ar draws Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys, a chynyddu’r trosiant o £207,305 yn 2012 i oddeutu £600,000 eleni.  Mae tîm y staff wedi tyfu hefyd, o bedwar i 30 rôl.  Mae Ffion wedi gwneud gwaith diflino i arwain, siapio, symleiddio a hyrwyddo’r sefydliad ac mae wedi ffurfio partneriaethau gwaith arloesol gyda rheolwyr tir mawr ym mhrosiect Elan Links, gyda’r Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol wrth sefydlu Dysgu am Natur, a gyda sefydliadau adfywio ar lawr gwlad ar draws Cymru fel rhan o brosiect Llechi Glo a Chefn Gwlad, i enwi rhai yn unig.  Mae ei dawn ym maes dylunio a chyfathrebu wedi siapio brand trawiadol Tir Coed a’i fodelau ymgysylltu a dilyniant unigryw.  Mae hi wedi diogelu’r sefydliad ar gyfer y dyfodol hefyd trwy ddatblygu rhaglen AnTir newydd Tir Coed, a fydd yn ehangu darpariaeth y sefydliad o weithgareddau hyfforddiant a lles sy’n seiliedig ar y tir er mwyn cynnwys arferion tir adfywiol a thyfu bwyd, yn ogystal â sgiliau rheoli ystad a choetir.  Mae gwybodaeth Ffion a’i chariad tuag at gefn gwlad Cymru wedi sicrhau bod datblygiadau Tir Coed yn rhai adweithiol i’r cymunedau lleol y mae’n bodoli i’w gwasanaethu, gan ddatblygu enw da fel elusen sy’n gynhwysol, sy’n flaengar ac sy’n ymgysylltu’n llawn gyda’r gymuned leol.

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Adrian Wells:  “Ers iddi ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Gweithredol yn 2013, mae Ffion wedi gwneud cyfraniad aruthrol i Tir Coed, gan dyfu’r sefydliad o fod yn bartneriaeth leol gyda chymorth statudol i fod yn elusen ranbarthol gyflawn sy’n cael effaith enfawr ar fannau lleol a bywydau pobl leol.  Mae hi’n gadael yr elusen mewn sefyllfa gadarn iawn ac rydym yn hynod ddiolchgar iddi am ei holl waith.  Mae’n ddrwg iawn gennym ei gweld yn gadael.”

Dros y misoedd nesaf, bydd Ffion yn parhau i wneud gwaith rhan-amser wrth drosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r tîm rheoli uwch.  Bydd hi’n arwain y broses o chwilio am Brif Swyddog Gweithredol newydd talentog, profiadol ac angerddol hefyd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle