Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21 wedi’i lansio.
Bydd yr adolygiad, sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn ystyried tystiolaeth o ymchwiliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag adroddiadau perthnasol eraill.
Penodwyd Athro Elwen Evans CF, un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw’r DU, i arwain yr adolygiad.
Bydd yr Athro Evans yn gyfrifol am sefydlu canfyddiadau allweddol, pryderon a rennir, gwersi a ddysgwyd, llwyddiannau ac arferion da, yn ogystal â nodi meysydd i’w gwella.
Ers i Storm Dennis greu llanastr ledled y wlad ym mis Chwefror 2020, mae Cymru wedi gweld cynnydd cyflym o ran amlder stormydd a llifogydd nag ar unrhyw adeg arall a gofnodwyd mewn hanes.
Dywedodd yr Aelod Dynodedig Sian Gwenllian:
“Rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar ein cymunedau a’n busnesau. Ochr yn ochr â gweithredu ar newid hinsawdd a sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan i fynd i’r afael ag ef, bydd mynd ati i atal llifogydd a dysgu o lifogydd dinistriol 2020-21 yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelwch a thawelwch meddwl pobl ledled Cymru.
“Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos i ddatblygu cwmpas a dull gweithredu’r adolygiad pwysig hwn fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canfyddiadau.”
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
“Mae’r llifogydd ofnadwy a welsom yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil newid hinsawdd. Mae tywydd difrifol fel hyn sy’n digwydd yn fwyfwy aml yn creu trawma, colledion ariannol ac yn tarfu’n helaeth ar deuluoedd a busnesau.
“Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu o ddigwyddiadau blaenorol i’n paratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy’n falch iawn bod yr Athro Evans, sy’n dod â phrofiad ac awdurdod sylweddol, wedi cytuno i arwain yr adolygiad annibynnol.”
Dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru Heledd Fychan – a oedd yn Gynghorydd dros Ward Tref Pontypridd pan darodd Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 ac sydd wedi parhau i frwydro dros gyfiawnder i’r rhai yr effeithiwyd arnynt,
“Rwy’n croesawu’n fawr yr Adolygiad Annibynnol i’r Llifogydd, a phenodiad Elwen Evans CF.
“Dros ddwy flynedd ers y dinistr yn 2020, nid yw pob adroddiad i’r llifogydd wedi’i gyhoeddi ac nid yw trigolion a pherchnogion busnes yn gwybod o hyd beth ddigwyddodd na pham, nac a fydd eu cartrefi a’u busnesau yn ddiogel rhag llifogydd yn y dyfodol.
“Mae pobl yn parhau i gael hunllefau am yr hyn a ddigwyddodd, a dal ddim yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi bob tro y mae’n bwrw glaw yn drwm. Gyda newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y tebygolrwydd o lifogydd yn parhau i dyfu, rhaid inni sicrhau ein bod yn deall yr hyn y gall cynghorau lleol a’r Llywodraeth ei wneud i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt, ond yn hanfodol lleihau’r risg i’n cymunedau.
“Mae’r digwyddiadau hyn yn debygol o ailadrodd eu hunain yn amlach ym mhob rhan o Gymru, felly mae dysgu gwersi’r llifogydd hyn yn hollbwysig. Rwy’n croesawu’r ffaith bod Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau adolygiad, sy’n gam cyntaf pwysig i sicrhau atebion. a chyfiawnder i bawb yr effeithiwyd arnynt.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle