Y Scarlets yn cefnogi ymgyrch y Gronfa Dymuniadau newydd ar gyfer plant a phobl ifanc

0
399
Yn y llun L-R: Jayne Thomas (Nyrs Glinigol Arbenigol, Gofal Lliniarol Pediatrig), Tiara Davies (claf), Gareth Davies, Jonathan Davies, Delton Williams (claf), Anne-Marie Llewellyn (Nyrs Gymunedol Plant)

Wedi’i chyflwyno gan Elusennau Iechyd Hywel Dda a’i chefnogi gan Rygbi’r Scarlets, bydd yr ymgyrch yn creu atgofion hudolus i blant a phobl ifanc sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd.

Mae’r Scarlets yn gweithio mewn partneriaeth â’u helusen GIG leol i gefnogi’r Gronfa Dymuniadau, ymgyrch newydd a fydd yn creu atgofion hudolus i blant a phobl ifanc sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd.

Bydd y Gronfa Dymuniadau’n codi arian ar gyfer gwasanaethau Gofal Lliniarol Pediatrig y GIG yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd y cyllid yn galluogi’r gwasanaethau i ddarparu gweithgareddau sydd y tu hwnt i wariant y GIG. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau grŵp gwych a theithiau diwrnod i’r teulu, teganau chwarae therapiwtig i helpu cleifion ifanc i brosesu’r hyn y maent yn ei brofi, ac adnoddau llesiant i deuluoedd a brodyr a chwiorydd ifanc.

Dywedodd Angharad Davies, Nyrs Arweiniol Cymunedol Plant: “Bydd y Gronfa Dymuniadau’n rhoi cyfleoedd i ni roi ychydig bach yn ychwanegol i’n cleifion a’n teuluoedd.

“Mae’n golygu y gallwn greu atgofion parhaol gyda’n gilydd a fydd yn cael eu coleddu am byth. Ni allaf ddweud wrthych faint mae hyn yn ei olygu i’r plant a’r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a’r tîm Gofal Lliniarol Pediatrig.”

Dywedodd Jonathan Davies, Rygbi’r Scarlets: “Rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi’r Gronfa Dymuniadau ac yn edrych ymlaen at weithio gydag Elusennau Iechyd Hywel Dda i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

“Rydym yn gobeithio ysbrydoli pobl ar draws y rhanbarth i ymuno â ni a dod ag ychydig o lawenydd i’w bywydau. Rydyn ni eisiau eu helpu i greu atgofion gwych a fydd yn para am byth.”

Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio’n swyddogol ar 20 Mai a bydd yr elusen yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r bartneriaeth yng ngêm y Scarlets Vs Stormers ar 21 Mai yn stadiwm Parc y Scarlets, Llanelli.

Bydd ymgyrch y Gronfa Dymuniadau’n gweld yr elusen GIG a’r Scarlets yn cydweithio’n barhaus i godi arian ar gyfer yr ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth am waith y tîm Gofal Lliniarol Pediatrig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle