Coelcerth a oedd allan o reolaeth yn dinistrio sied yr ardd

0
281

Ddydd Llun, 23/05/2022 am 11:47am, cafodd diffoddwyr tân o Drefaldwyn eu galw i dân mewn sied yn ardal Yr Ystog, Trefaldwyn.

Roedd y tân wedi tarddu o goelcerth a osodwyd yn rhy agos at y sied ac roedd hefyd wedi lledu i glawdd cyfagos a choeden.

Diffoddwyd y tân ddiffoddwyr tân yn defnyddio dwy jet rîl pibell a chamera delweddu thermol.

Gadawodd y Gwasanaeth Tân y digwyddiad am 01:15pm.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog pobl i ystyried yn ofalus a oes angen llosgi eu sbwriel ac yn lle hynny i ddefnyddio gwasanaethau gwaredu gwastraff eu hawdurdod lleol.

Cyngor Allweddol ar Ddiogelwch

Os yw’n hanfodol eich bod yn llosgi eich sbwriel a’ch gwastraff gardd ar goelcerth, yna dilynwch y rheolau syml hyn sy’n cael eu hyrwyddo gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân:

  • Yn y lle cyntaf, a yw hyn yn gwbl angenrheidiol?
  • Os yw yn angenrheidiol, yna dylid gosod coelcerthi yn ddigon pell i ffwrdd oddi wrth adeiladau, ffensys, coed, ac adeiladau ac adeiladweithiau gardd.
  • Os yn bosibl, dylid llosgi sbwriel gardd mewn llosgydd gardd. Dylid gosod y llosgydd gardd ar arwyneb gwastad nad yw’n llosgadwy, er enghraifft slab patio.
  • NI DDYLID defnyddio hylifau neu gyflymyddion fflamadwy i gynnau’r goelcerth.
  • Dylid goruchwylio’r goelcerth trwy’r amser.
  • Dylai dull o reoli’r goelcerth fod wrth law, e.e. piben ddyfrhau.
  • Rhaid gwirio’r gyfraith/deddfau lleol bob amser i sicrhau cydymffurfedd.
  • Mewn achos brys dylid ffonio 999.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle